Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau IORWERTH C. PEATE, Rhwng Dau Fyd (Gwasg Gee, Dinbych, 1976, tt. 200) Pris £ 3. Anodd fyddai gorbrisio cyfraniad y Dr. Iorwerth Peate i'n llen a'n diwylliant fel cenedl yn yr ugeinfed ganrif. Gwyr pawb am ei waith fel sylfaenydd a churadur cyntaf Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, a thra bydd yr Amgueddfa, gallwn fod yn sicr y bydd cofio amdano yntau. Nid pawb sy'n sylweddoli maint ei gyfraniad fel ysgolhaig, a llai fyth, ond odid, sy'n amgyffred maint ei gyfansoddiadau fel bardd a llenor cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, ond heblaw barddoniaeth, cyhoeddodd hefyd ysgrifau llenyddol a beirniadol ac erthyglau sy'n ymwneud â'n diwylliant a'i broblemau'n gyffredinol ac yn mynegi barn gadarn a thra chyson. Ar fyr, cyhoeddodd swmp o waith y gallai unrhyw un o'i gyfoeswyr fod yn dra balch ohono. Darn o hunangofiant yw'r gyfrol hon, a phe na bai'n gwneuthur dim ond rhoi i ni beth o hanes ac o gefndir yr awdur, byddai i'w chroesawu'n wresog, ond mewn gwirionedd y mae'n gwneuthur llawer mwy na hynny: fe deifl oleuni llachar ar ei ddatblygiad fel dyn, fel ysgolhaig ac fel llenor, y mae'n esbonio llawer iawn ar ei safbwynt fel meddyliwr, ac ar ei olygwedd gyffredinol ar fywyd ac ar Gymru, ac y mae hyn yn bwysig dros ben, oblegid, a'r byd yng Nghymru, fel y mae ym mhob gwlad arall, yn newid yn arswydus o gyflym, a'r awdur bellach yn rhyw ddwy ar bymtheg a thrigain mlwydd oed fe'i ganed yn 1901 y mae'n mynd yn anos bob blwyddyn i'r genhedlaeth sy'n codi ddeall ac amgyffred safbwynt y rhai sy'n perthyn i'r genhedlaeth a'i blaenorodd. Mae'r Dr. Peate ei hun yn ymglywed â hyn. Y teitl a roes i'r gyfrol hon yw Rhwng Dau Fyd, a'r ddau fyd a olyga yw "y byd Edwardaidd. etifedd y byd Fictoriaidd, byd diddan y gymdeithas Gymraeg uniaith, byd y radicaliaeth boliticaidd, byd y capeli llawn a'r pregethu gwefreiddiol, byd y dadeni llenyddol," ar y naill law, ac-ar y llaw arall, y "byd lle y mae'n anodd darganfod yng Nghymru gyfan un gymdeithas, hyd yn oed, sy'n uniaith Gymraeg; byd y ceir ynddo fwyfwy o hyd o siarad Saesneg mewn geiriau Cymraeg, byd y 'pen-wythnos' a'r 'arbed arian' (lle y byddem ni gynt yn eu 'cynilo'), byd eideoleg Sosialaidd lle y mae'r Wladwriaeth yn hollalluog, byd gorseddu Afreswm a gogoneddu trais a thor-cyfraith, byd lle y mawrygir cyffredinedd ac y clodforir mawrdra." Nid oes eisiau i'r darllenydd ddyfalu pa un o'r ddau fyd sydd orau gan y Dr. Peate. Ceir darlun lliwgar a hoffus ohono yn y bennod fwyaf caruaidd sydd yn y llyfr, y bennod ar "Y Fro a'i gwreiddiau," sef, yn fras, fro Llanbryn-Mair. Ond y mae'r awdur yn ormod o hanesydd i beidio â sylweddoli nad chwyldro sydyn a barodd y gwahaniaeth rhwng y byd hwnnw a'r byd sydd ohoni heddiw. Bu'r cyfnod rhwng y ddau fyd yn hoyw a buddugoliaethus ac eto'n argyfyngus a thrychinebus, yn oruchafiaeth ac yn alanas, yn drobwynt tyngedfennol yn hanes Dyn. Yn y cyfnod hwnnw y Ilwyddodd Dyn i ddatrys cyfrinachau mwyaf dyrys y cyfanfyd; ynddo hefyd y disgynnodd i waelodion ei natur anifeilaidd. Ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg disgleiriodd ei aml ddoniau, ond ni welwyd yr un egni cyfatebol yn ei ddatblygiad moesol. Chwalodd y ddau Ryfel Byd holl olion diddanwch y byd Edwardaidd, a'i aml anghyfiawnderau'r un pryd. Os cafwyd ar ôl y naill ryfel a'r llall gyfnodau o heddwch, nid adnillwyd yr hen dangnefedd ac anodd bell- ach yw hyd yn oed ddychmygu ei rin. Cyfeiria'r Dr. Peate at "hunangofíant" Edwin Muir (at ei The Story and the Fable, fe ym- ddengys, yn hytrach nag at ei Autobiography) a dyfynna gyfieithiad paragraff sy'n diweddu fel hyn: Ynddynt eu hunain, fe all nad yw ein bywydau ymwybodol yn ddiddorol iawn; ond i mi ym- ddengys yr hyn nad ydym ac na allwn fyth fod, sef ein "chwedl" (o'i chyferbynnu a'n "stori") yn anhygoel o ddiddorol. Hoffwn ysgrifennu'r chwedl honno, ond ni allaf hyd yn oed ei byw. A'r cwbl a allaf ei wneud, os adroddaf stori fy mywyd yw dangos gymaint y gwyrais oddi wrthi: ond y mae hynny hefyd yn amhosibl, canys ni wn i'r chwedl nac adnabod neb a'i gwyr. Ac yna fe ddywed y Dr. Peate: y mae traddodiad yr hil, a'r hyn yr ydym trwy etifeddiaeth canrifoedd, y patrwm a ddat- blygodd trwy brofiad cenedlaethau aneirif ein cyndadau y mae hyn o11 yn rhan hanfodol o'n personoliaeth. Dyma'r "chwedl" na allwn ei dehongli wrth adrodd ein "stori." Llunnir rhannau sylfaenol o'n bywyd gan ddylanwad y cwmwl tystion, a aeth o'n blaen, arnom. Ymhell cvn i mi daro ar eiriau Edwin Muir. ceisiais ddatgelu peth o'm "chwedl" mewn cerdd "Y Llinyn Arian," (Canu Chwarter Canrif, 1957, 9-12), gan ddwyn i mewn hyd yn oed