Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DERWYN JONES, Rhwng y Silffoedd. Ysgrifau gan Dr. Thomas Richards a Gwilym B. Owen (Gol.). (Gwasg Gee). Pris £ 3.50. Mae'r gyfrol yn cynnwys rhagair gan y golygyddion yn amlinellu gyrfa Thomas Richards a chyflwyniad gan Dr. (Syr bellach) Thomas Parry sy'n ein dwyn gryn dipyn yn nes at gamp a dawn Dr. Richards. Traethodd yn fwy helaeth ar y testun mewn darlith afieithus, ardderchog, i Gymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru eleni. Cewch gyfle i'w darllen yn y man yn nhrafodion y gymdeithas honno. Detholiad o ysgrifau Dr. Richards yw corff y gyfrol a cheisiodd y golygyddion yn eu dewisiad gyfleu diddordebau amlweddog yr awdur ei hun. Felly er nad yw'r hanesydd a'r llyfrgellydd fyth ymhell oddi wrth benelin y darllenydd, nid oes unrhyw unoliaeth testunol yn perthyn iddi. Gydag un eithriad yr ydym yng nghwmni'r hanesydd yn hamddena. Yr eithriad yw'r ysgrif ar Henry Maurice. 'Roedd yn hen bryd i'r ysgrif hon gael cylchrediad helaethach. Mae'n rhoi darlun da o Dr. Richards wrth ei briod waith yn casglu gwybodaeth, yn ei chloriannu a'i threfnu a'i chyfleu'n gryno a diduedd i'r darllenydd. Dyna gyrraedd terfynau camp yr hanesydd. I mi mae defnydd crai'r ysgrif hon, y gwrthdaro rhwng balchder tras ac eiddilwch, rhwng euogrwydd ac arwriaeth, yn her i lenor synhwyrus, yn rhydd o hualau caeth- iwus yr hanesydd, gydio ynddo a dodi ei ddelw ei hun arno. Serch nad oes unrhyw unoliaeth testunol amlwg yn perthyn i'r gyfrol, mae yna linyn cyswllt sy'n ei chydio wrth ei gilydd, a hwnnw yw diddordeb amlwg Thomas Richards mewn personau a'r rheini'n orymdaith, weithiau'n llwyd, weithiau'n lliwgar o sêt fawr Tal-y-bont i gae peldroed Lerpwl, o ysgubor Ynystudur i blas Baron Hill. Mae'n rhaid ei fod yn bur gyfarwydd ag ysgrifwyr Lloegr yn yr ail ganrif ar bymtheg, cyfoedion a dilynwyr Francis Bacon. Cynildeb oedd rhinwedd arbennig eu gwaith hwy, ond nid oedd honno'n reddf gynhenid yn Thomas Richards. Yn gynnar yn ei yrfa tynnodd L. J. Roberts ei sylw at ei ddull afradus o rannu ansoddeiriau ac fel myfyriwr ym Mangor cafodd weld ei 'flodau'n ffiwgro' o dan feirniadaeth foneddigaidd ond deifiol J. E. Lloyd. Mae ambell drawiad go flodeuog yn aros o hyd; dyrnau tyngedfennol oedd dyrnau Pedr Hir; nid penio'r bêl y mae ei arwyr ond ei chornio,' ac wrth ddarllen am Roojse rhyfeddwn at Rym deinamig ei draed, nerth annaearol ei arddyrnau, rhad roddion Rhagluniaeth oeddynt hwy, ac efengyl etifeddeg yn llawforwyn iddi." Ond sut, wrth fesur meidrol, y gellid disgrifio'r golgeidwad hwn a oedd o fewn trwch blewyn, a hwnnw'n flewyn go fain t bod yn anffaeledig-gwr a wynebodd purdan y penalti'n ddigryn! Lle mae'r ansoddeiriau'n byrlymu gellir synhwyro Thomas Richards ar flaenau ei draed yn ceisio corlannu â gair ryw nodwedd arbennig, rhyw ginc ystyfnig yn ei wrthrych. 'Roedd cinc yn air go bwysig ganddo. ond, os yw'r gwaith brws ar dro yn rhy amlwg, gall hefyd â thrawiad neu ddau greu darlun byw. Dyna John Jones, Pant-coch, wedi methu cael mynediad i sêt fawr Taliesin, yn eistedd yn y sêt agosaf ati ac yn gadael i'w fraich dde daflu i mewn i'r gwagle." Llwyddodd i grynhoi dwyster a chyni cenedlaethau o dyddynwyr mynyddig Cymru i'r frawddeg hon am ei dad, Isaac Richards clywais ef droeon yn codi ei lais at Dduw yn yr ysgubor gyfagos, yn swn strocs y ffust fach ar geirch y mynydd Erys rhigol yr hen lwybrau yn amlwg ar lethrau'r fro," meddai am ei hen fro gan ymfalchïo nad oedd yr hen safonau wedi eu herydu. Yr oedd ganddo glust fain i ymglywed â swn a sain geiriau, e.e., mewn ymadrodd am Bedr Hir mae'n cyfeirio at y dwfn lonyddwch meddwl a rydd waelod o goethder i waed canrifoedd." Nid yw'r wên honno y tu ôl i'r rhimyn sbectol fyth ymhell chwaith, weithiau'n cynnau uwchben ei helyntion ei hun. Aeth i ddarlithio i Lanwenarth, Mecca'r Bedyddwyr, yn haf braf 1953 a'i god yn llawn o drysorau newydd a hen i ryfeddu'r saint, ond pylodd sglein y trysorau ym mhelydrau haul y prynhawn, a gwelai'r pennau'n nodio o un i un, Eithriad bywiog oedd y gweinidog ieuanc yn y sêt fawr a gofnodai bob gair a ddywedwn er mwyn eu hanfon i'r Crusader ’’ Wrth gofio mai papur go gyfyng ei gylchrediad oedd hwnnw, mae'n rhaid bod ergyd ymwybodol o bathos yn y cyfeiriad. Yr hyn a'm trawodd i wrth ddarllen y gyfrol oedd cydymdeimlad Thomas Richards a'i oddefgarwch. Weithiau byddai'n llinynnu cymalau gwrthgyferbynnol i lunio'i ddarlun. Fel hyn y disgrifia Hugh Roberts, y pregethwr cynorthwyol, a'i eiriau fel talpiau o iâ Mewn gair, nid oedd Hugh Roberts yn bregethwr delfrydol ar brynhawn oer. Dyn galluog, serch hynny, a bonheddwr i'r bôn. Bonheddwr neu beidio, nid oedd