Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

farchogwr cyflymach nag ef drwy'r bröydd ar geffyl haearn Ni chelai'r gwendidau, ond mae'r darlun gorffenedig, yn ddieithriad bron, yn ddarlun caredig, y rhinweddau, gyda bawd yr awdur ar ymyl y glorian, yn gorbwyso'r beiau. Fel y disgwylid, efallai, mewn hanesydd a fagwyd cyn i'r dadleuon ymhlith y saint am ddamcaniaethau Darwin ddistewi, mae'n cyfeirio'n lled fynych at etifeddeg. Mae'n brigo yn ei ymwneud ã gwyr y plasau. Gwelai ei dylanwad ar Syr Richard Bulkeley, Baron Hill, Ac wrth edrych ar Syr Richard yr oeddech yn teimlo hyn- dyma un sydd yn disgyn o -hynafiaid go bell, disgyn o dad i fab ymron heb golli cam o 1450 hyd at 1938, fod hynny yn weddol eglur yn ei ymddangosiad-dyn tal, gosgeiddig, aristocrat. Mae'n amhosibl dweud erbyn hyn pa deithi, ai da, ai drwg a gysylltai Thomas Richards a'r gáir aristocrat. Yn wir dysgasai gan ei dad nad oedd rhinwedd yn disgyn yn ddi-dor o dad i fab'. Nerth i'w wastrodu a'i gyfeirio oedd etifeddeg. Nid damwain lwcus," meddai am Pedr Hir, ar lawr Clwyd oedd dwyn y ddynoliaeth braf hon i'r byd, ond ffrwyth cenedlaethau o briodi cymen cyfaddas. 'Roedd gan Thomas Richards ei bendefigaeth ei hun. Pobl o ryw blaned arall oedd gwyr y plasau i'w trin yn garcus am fod ganddynt y dogfennau prin a geisiai. Daw hyn allan yn weddol glir yn ei ddisgrifiad o ysgweier Bodorgan, gwr y ddwy hyphen, Tapps-Jervis-Meyricke, "mae'r hyphen yma yn bwysig iawn yn hanes y teulu ac yn bwysig iawn yn hanes y llawysgrifau sydd ganddo." Osgo meddwl oedd nod wahaniaethol ei bendefigaeth ef. Nid ffrwyth gwybod yw'r ysgolheictod orau ond yr osgo meddwl sydd yn grud iddi." Osgo meddwl yr humanist yn ôl ei gyfrif ef-gair amheus mewn llawer cylch yng Nghymru heddiw; yr osgo meddwl sy'n mynnu profi popeth, y crafanc diwrthdro am 'egwyddorion' Ei ddelfryd oedd Syr John Lloyd, gwr yn ymwneud â phwyntiau â'u pigau at graidd gwybodaeth,' gwr o farn aeddfed a'r farn aeddfed honno wedi ei phriodi â doethineb, gwr â chydwybod dda i warchod y gwir. Delfryd o hanesydd ac o ysgolhaig ond nid gwr i glosio ato. 'Petai'n ysmygu neu'n gallu codi hwyl am fuddugoliaeth y reds.' Nid oedd Roose na Jimmy Wilde, gwyr y ddyneiddiaeth newydd, yn ei oriel. Ond yr oedd gan Thomas Richards ddosbarth arall yn ei bendefigaeth. J. E. Lloyd oedd y tywysog, efallai, anghyffwrdd, by divine right ond ymhlith y gwyr llys yr oedd y dynion rownd, chwedl Thomas Richards, dynion llawn afiaith a pherygl iddynt dorri'r llechi o dro i dro. dynion fel Pedr Hir, y gwr â sifalri Cai a Pheredur, yn gwisgo gwisg pregethwr Batus, gwr fyddai'n ddigon cyflawn i deimlo'n gartrefol yn awyrgylch rhywiog y Dadeni, gwr i ledu'ch ysgwyddau yn ei gwmni ar hyd strydoedd Lerpwl. A chyfrol rownd yw'r gyfrol hon, hwyrach ei bod yn torri llechi'r beirniad llenyddol ar dro ond byddwch wrth eich bodd yn ei chwmni ac fe ddeil ei chwmnïaeth hyd oriau mãn y bore. Bangor. T. M. BASSETT R. GERALLT JONES, T. H. Parry-Williams, yn y gyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru). Pris £ 1.50. Er bod themâu pwysicaf T. H. Parry-Williams yn rhai a ddaeth yn gyfarwydd mewn sawl llenyddiaeth ar draws canol yr ugeinfed ganrif, eto fe gyfyd problemau arbennig pan eir ati i gyflwyno'i waith i gynulleidfa ddi-Gymraeg, a rhaid edmygu pwy bynnag a ymgymero â'r dasg. Y broblem ganolog, efallai, yw cyfleu rywsut i'r anghyfarwydd rywbeth o'r hyn y daeth Parry-Williams i'w olygu i ni, bawb ohonom a brofodd ryw fath o gysylltiad â byd Uenyddiaeth Gymraeg. Beth bynnag yw'r esboniadau cymdeithasegol ar hynny, mae'n ffaith bod yna duedd gref o fewn y gymuned Gymraeg, neu fan leiaf ymhlith y rheini a fyddai'n eu hystyried eu hunain yn 'Bobl y Pethe,' i droi personau yn chwedlau yn eu hoes eu hunain, i wneud ohonynt arwyr diwylliant,' os caf ystumio ychydig bach ar derm yr anthropolegwyr. Oherwydd hyn, pan geisir cyflwyno yn Saesneg waith rhywun fel T. Gwynn Jones neu W. J. Gruffydd, neu R. Williams Parry neu Waldo, neu bron na ddywedem unrhyw un 0 lenorion Cymraeg pwysig y ganrif hon fe wynebir bob tro y sialens o ail-greu, mewn termau dealladwy i gynulleidfa ddieithr, y muthos hwnnw y cyferfydd y person a'r llenor ynddo. Ond teimlir y gall y dasg fod yn anos gyda T. H. Parry-Williams na chyda neb ohonynt oherwydd fod cywair a chymeriad ei waith, a holl argraff fel personoliaeth lenyddol, yn amhosibl eu datgysylltu oddi wrth yr hyn a wnaeth ag iaith, ac iddi, a hynny yn ei dro, fel y crybwylla R. Gerallt Jones yn agos at ddiwedd ei ymdriniaeth, yn