Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

boblogaidd yn Saesneg. Deuir i ben yn llwyddiannus iawn drwy gyfeirio o fewn byr gwmpas at amrywiaeth gwir gynrychioliadol o'r cerddi a'r ysgrifau. Yn y tair adran sydd ar ôl (V-VII) wynebir tasg sy'n gymaint her â dim byd a grybwyllwyd hyd yma, sef ceisio canfod datblygiad a newid yng ngwaith Parry-Williams o ganol y tri-degau ymlaen hyd at ei gyfrol olaf, Pensynnu. Dyn go fentrus a gymerai ysgrif o Pensynnu neu gerdd o Myfyrdodau gan honni, ar unrhyw sail ac eithrio'r ambell gyfeiriad sy'n digwydd ei dyddio, na allai yn ei byw fod wedi ymddangos yn Ysgrifau neu Cerddi: mae'n eithaf sicr bod y newid mawr drosodd erbyn cyfansoddi 'K:C:16' a 'Dwy Gerdd' ym 1922, ac mai 1919-20, 'y flwyddyn honno' ys dywedai yntau, yr ysbaid od a dreuliodd fel glas-fyfyriwr yn y gwyddorau, yw'r gwahanbwynt amlwg rhwng yr 'hanner ieuenctid' lled faith a chyfnod aeddfedrwydd Parry-Williams y llenor. Ond fe'n gwahoddir gan R. Gerallt Jones i ystyried y gall nad cwbl unffurf a diddatblygiad mo gyfnod yr aeddfedrwydd chwaith, y gall fod yna newidiadau bychain i'w gweld, mewn pwyslais ac mewn diddordeb, wrth ddarllen ymlaen drwy Synfyfyrion, Olion a'r pum cyfrol arall, ond inni edrych yn ddigon manwl. Efallai nad yr un patrwm a welai pawb ag a wêl R. Gerallt Jones, ond da yw cael ein cymell i feddwl am hyn. Efallai mai mater i'r darllenydd di-Gymraeg, yn fwy nag i neb arall, yw barnu llwyddiant yr astudiaethau ar awduron Cymraeg yn y gyfres Writers of Wales. Y cwestiwn y mae'n iawn i adolygwr Cymraeg ei ofyn, am hon fel am y cyfrolau eraill, yw a ydyw'n gyflwyniad teg o'r gwrthrych fel yr ydym ni wedi arfer ei adnabod. Gellir ateb heb betrustod ei bod. O fewn fframwaith byr-gofiant, cyfeirir at ddetholiad helaeth o weithiau Parry-Williams, gosodir arnynt ddosbarthiad defnyddiol, a thrwy gyfieithu a chrynhoi a disgrifio trosglwyddir llawer o'u rhin a'u cymeriad. Er mai'r llenor a'r artist, yn naturiol, yw prif ddiddordeb yr astudiaeth, nid anwybyddir ychwaith yr ysgolhaig, na byddai'r llenor yr un hebddo, ac nid anghofir am y crëwr geiriau, y cyfieithydd i'r Gymraeg, yr estynnwr ar adnoddau'r iaith. Mentraf anghytuno ag un cyfieithiad. 'Attraction' ddywedwn i am 'Tynfa' (t. 50), nid 'Tension'; 'tyndra' yw <tension. Un peth bach od arall: ni ddywedir yn unman beth yw'r 'H' yn 'T.H. DAFYDD GLYN JONES IEUAN GWYNEDD JONES (Gol.), Aberystwyth 1277-1977. (Gwasg Gomer, 1977). Pris r4.25. Yn ystod y flwyddyn 1977 bu trigolion tref Aberystwyth yn dathlu saith canmlwyddiant sefydlu'r fwrdeistref hynafol honno. Menter ddoeth a difyr oedd i rai o aelodau Coleg y Brifysgol yno benderfynu atgoffa'u cyd-ddinasyddion o rai o brif benawdau hanes eu cymdogaeth trwy drefnu saith darlith gyhoeddus yn y Coleg dan nawdd yr Adran Efrydiau Allanol. Syniad doethach fyth oedd mynd ati i gyhoeddi'r darlithiau hynny mewn cyfrol deilwng o'r achlysur. Athro Hanes Cymru'r Coleg, Ieuan Gwynedd Jones, a drefnodd y gyfres o ddarlithiau, ac yntau hefyd a'u paratoes ar gyfer y wasg a'u llywio drwyddi. Y mae'n gyfrol lanwaith a sylweddol o ryw gant a hanner o dudalennau, wedi'i rhwymo'n gadarn, ei hargraffu'n gelfydd ar bapur da, ac yn cynnwys toreth o gynlluniau a mapiau a thros drigain o ddarluniau gwych. Yn y dyddiau didrugaredd o chwyddiannus hyn y mae gwerthu'r fath lyfr am £ 4.25c. yn cynnig bargen i'w rhyfeddu. Pob clod i'r golygydd a'i gydweithwyr am gynnwys y gyfrol, i Wasg Gomer am ei diwyg, ac i Gyngor y Dref am ddwyn y draul. Anaml iawn y deillia cofeb mor hardd a pharhaol o ddathliadau cyffelyb. Fe yr esbonia'r golygydd yn ei ragair nid oedd amser yn caniatáu i'r darlithwyr baratoi hanes cyflawn a chydlynol o'r dref; yn hytrach yr amcan oedd iddynt geisio dewis a dilyn rhyw rai yn unig o'r prif ddatblygiadau hanesyddol a luniodd ffawd a phersonoliaeth y dref ar hyd y canrifoedd. Yn naturiol ac yn anocheladwy, felly, ceir bylchau yn y stori; a rhai ohonynt yn fylchau gweddol amlwg. Ni ddywedir fawr o ddim, er enghraifft, am hanes y dref rhwng diwedd yr Oesau Canol a'r 18fed ganrif. Nid olrheinir hanes ymneilltuaeth y ganrif ddiwethaf chwaith, er bod yr Athro Ieuan Jones ei hun yn ymdrin yn feistrolgar â'r cysylltiad rhyngddi a gwleidyddiaeth. Ar yr ymylon yn unig, hefyd, y mae hanes Coleg y Brifysgol. Ond ofer ac anniolchgar fyddai