Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ofni bod y rhod wedi troi yn ei hôl at sefyllfa 1277. Ond tant gobeithiol a drewir gan Mr. Carson, serch hynny: "there seems no reason why good sense and good will cannot solve this problem like many other in the past centuries." Mae Mr. Carson braidd yn fwy ffyddiog nag wyf fi; 'rwy'n mawr obeithio mai ef fydd yn iawn. Abertawe. GLANMOR WILLIAMS. J. E. CAERWYN WILLIAMS (Golygydd), Ysgrifau Beirniadol, X, (Gwasg Gee, 1977). Pris £ 4.50. Yn ystod y blynyddoedd diweddar hyn daeth llunio cyfrolau teyrnged a chyfrolau er anrhydedd i unigolion a fu'n hael eu cymwynas i'n cenedl mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn beth arferol. A da hynny. Y duedd yn y gorffennol oedd aros tan fyddai rhyw wr enwog ym myd Uen, neu ysgolheictod neu unrhyw gylch arall o weithgarwch wedi marw, ac yna llunio cofiant iddo. Cyndyn iawn a fuom fel cenedl i ganu clodydd ein cymrodyr pan fyddent ar dir y byw, a'u hanrhydeddu'n deilwng yn ystod eu hoes. Ni chãi neb fwy nag ambell erthygl neu ysgrif bortread mewn cylchgrawn a phapur; tueddid cadw cyfrolau ar gyfer coffáu'r arwyr hyn. Ond er pan gafodd Mr. Saunders Lewis a'r Dr. Tegla Davies gyfrol yr un yn trafod eu gweithiau y mae'r ffordd wedi'i rhwyddhau i eraill gael cyfrolau sydd yn traethu am eu cyfraniadau. A chyn belled ag y gwelaf fi, ni ddaeth unrhyw ddrwg o roi'n gwyr amlycaf o dan feicrosgop er gweld sut y gweithredant a beth yw eu cyfrinach. A phan fydd ysgolhaig wedi gweithio'n ddygn am oes a datgelu cyfoeth ein hetifeddiaeth lenyddol haen wrth haen ac agor ein llygaid a'n deall ã'i esboniadau a'i erthyglau, mae'n hen bryd i ni ei anrhydeddu yntau, a chael cyfrol sylweddol a haeddiannol i'w chyflwyno iddo. Cyfrol felly ydyw hon. Cyfrol a gyflwynir i'r Dr. Thomas Parry "fel arwydd o edmygedd a gwerthfawrogiad y cyfranwyr o'i lafur enfawr fel ysgolhaig a'i wasanaeth godidog i lên a diwylliant Cymru yn yr ugeinfed ganrif." Ac y mae pump ar hugain o gyfranwyr yma, a phob un yn traethu am ryw bwnc yn ei briod faes ei hun gan amlaf. Wrth ddarllen y gyfrol swmpus hon fe gefais i wledd, ac am wn i nad y ddelwedd o wledd fyddai'n taro orau i mi wrth sôn ychydig amdani. Wel nawr te, y gwr a drefnodd y wledd ac a sicrhaodd le i'w chynnal oedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams ac ef a roes wahoddiad i'r gwesteion eraill ar yr amod eu bod yn dod â rhyw ddanteithfwyd addas gyda hwynt. Ac fe ddaeth pob un yn ufudd falch a'i saig gydag ef. Wedi ymgynnull dyma'r Athro Caerwyn Williams ar ei draed i atgoffa pawb o'r rheswm dros gynnal y cyfarfod, gan gyflwyno portread llawn o'r gwr yr anrhydeddid ef, ac fe ategwyd popeth a ddywedodd yr Athro gan y Prifathro Syr Goronwy Daniel yn yr union eiriau a ddefnyddiodd wrth gyflwyno'r Dr. Parry am radd Ll.D. er Anrhydedd ym 1970. Gan mai Cymry sydd yn y wledd ni allai na fyddai rhyw fardd yno, a dyma Derwyn Jones ar ei draed â dau englyn o fawl ac mae'n siwr iddo gael cymeradwyaeth frwd. Yna, er atgoffa pawb fod y gwr a anrhydeddid yn un cwbl haeddiannol a theilwng galwyd ar Elen Owen i restru holl gyfraniadau'r Dr. Parry yn ystod y blynyddoedd 1923-76, a bu wrthi'n huawdl am gryn amser a phawb yn dal ei anadl ac yn synnu at faint y gwaith a gyflawnodd y prif westai. Dyma arolwg cynhwysfawr o oes o lafur diflino dros Gymru a'i phobl. Wedi gwrando ar y cyflwyniadau hyn a phawb yn cydweld mai teilwng iawn oedd trefnu r wledd, dyma fynd at y byrddau, Ue y gosododd pawb ei ddewis saig ei hun i'w phrofi gan y cwmni. Daeth Simon Evans â hen win Aneirin a baratowyd yn ôl y resait wreiddiol oedd gan yr hen fardd hwnnw, ac nid y gwin a gawn yn Llyfr Aneirin. Mae'n debyg fod y mynachod wedi ychwanegu rhai pethau at y resait wreiddiol. Yr oedd blas arbennig ar gyfraniad Simon Evans a chodai archwaeth am ragor, a thrwy lwc yr oedd Kenneth Jackson o'r Hen Ogledd yma, ac yr oedd yntau wedi dod ã photelaid o hen drwyth Nyth yr Ychedydd gydag ef, ac wrth ddrachtio hwn cafwyd hanes enw'r gwin a chyn diwedd lleolwyd y winllan Ue tyfwyd y grawn. Arbemgwr a 'connoisseur' mae'n amlwg ar yr hen beth prin. Nawr, gan fod y Dr. Parry wedi golygu Gwaith Dafydd ap Gwilym, fe wnaeth nifer o r cyfranwyr i'r wledd ymdrech arbennig i gynnwys peth o flasusfwyd y bardd hwnnw a i gyfnod. Weithiau dewiswyd rhyw un peth bach a llunio saig flasus wedi'i seilio arno. A dyna a wnaeth A.