Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Uenyddiaeth ddiweddar gan lwyddo i gasglu detholiad bach digon teilwng erbyn y diwedd, er iddo anghofio am Aneirin Talfan hefyd. Erbyn hyn yr oedd pawb wedi cael dogn dda o hanes llenyddiaeth Gymraeg a dyma R. M. Jones yn meddwl mai da o beth nawr fyddai "trafod ychydig ar yr astudiaeth o hanes llenyddiaeth," a dyma ddechrau traethu, ond ar fy ngwir, cyn hir rhoddodd ei fys yn ei wydraid gwin a dechrau tynnu deiagramau o wahanol siãp ar y lliain bwrdd ac fel pe nad oedd hyn yn ddigon, fe gafodd afael ar ddwy bysen un felen ac un werdd ac fe wnaeth bob math o gampau ã'r rhain hefyd, cyn ymollwng unwaith eto i dynnu rhagor o ddeiagramau a thraethu'n huawdl. Mae'n siwr mai gweld y pys a'r deiagramau a symbylodd Gwyn Thomas wedyn i sôn am ddelweddau, gan ddefnyddio "cath," "cipers," a "gwyddfid" i esbonio'r hyn oedd ganddo i'w ddweud. Mae'n amlwg fod y gwr hwn yn dipyn o ddarllenwr llyfrau Saesneg, a daeth â chyfoeth peth wmbredd o'r rheini ger bron mewn sgwrs sy'n sboncio ymlaen yn hyderus ddiddorol. Dyma glo teilwng i wledd gofiadwy iawn. Wel dyna chi, dyna'r wledd a drefnwyd i anrhydeddu'r Dr. Thomas Parry, a dim ond achub y blaen a wnaed ar y Frenhines ei hun, oherwydd ymhen dim o amser wedi'r wledd hon, fe ddyrchafwyd y Dr. Parry'n farchog, ac mae'n gwbl deilwng a haeddiannol o'r anrhydedd honno. Ond dyna falch ydwyf hefyd mai ei gydweithwyr a'i hanrhydeddodd gyntaf! Prynwch y gyfrol hon, fe gewch chwithau wledd gofiadwy ac fe gewch gip ar y gweithgarwch egnïol sy'n nodweddu astudiaethau Cymraeg ein cyfnod ni. Dyma gyfrol werthfawr dros ben. ISLWYN JONES. T. CEIRIOG WILLIAMS, Hyn a'r Llall, (Llyfrau Poced Gomer). Pris £ 1.10. Dyma hunan-gofiant diddorol gan wr a gafodd fywyd prysur, a gyflawnodd ei waith fel athro a phrifathro yn effeithiol a brwdfrydig, ac a gyfrannodd yn helaeth i fywyd crefyddol a diwylliannol yr ardaloedd y bu'n trigo ynddynt. Yng nghwmni'r awdur cawn fynd yn ôl i ddechrau'r ganrif, i'w bentref genedigol, y Garth, ger Llangollen, a chawn gip ar y dyddiau pan oedd siop y pentref yn ganolfan gymdeithasol, ac yn gwerthu asiffeta a tinta-riwbob, yn ogystal â bwydydd i ddyn ac anifail; yn ôl i'r dyddiau pan oedd deugain o blant yn dweud adnod yn yr oedfa ar y Sul, y bregeth yn parhau am awr a'r oedfa i gyd am ddwyawr, pan oedd mynd ar arholiadau'r Henaduriaeth ac ar gymanfaoedd canu dan arweiniad rhai fel David a Hopkin Evans a'r capel yn Acre-fair yn llawn i'r rihyrsal y noson cynt, a phan oedd parch at y Saboth, fel y byddai un pentrefwr yn smocio Gold Flake yn Ue'r Woodbines arferol ar y dydd cysegredig! Cawn ddilyn hynt yr awdur ymlaen i ddyddiau'r coleg ym Mangor, a mwynhau'r disgrifiadau byw o Syr John a Syr Ifor, Williams Parry ac A. H. Dodd. Cawn hefyd hanes y brotest yn erbyn ymweliad Caradoc Evans, y nofelydd, ã'r 'Lit. and Deb. ac ymgais Ceiriog Williams a T. Rowland Hughes i'w holi ynglyn â'i feirniadaeth lem ar fywyd Cymru ac ar safon yr Eisteddfod Genedlaethol. (Gyda llaw, faint o bobl Cymru a wyr i'r nofelydd dreulio'i flynyddoedd olaf yn byw yn ymyl capel Horeb, nepell o Aberystwyth? Y Parchedig J. E. Meredith soniodd wrthyf rywdro am ei ffyddlondeb i'r oedfa yno a'i werthfawrogiad o'r bregeth; anfonodd un tro air o ymddiheurad i Mr. Meredith oherwydd ei absenoldeb o'r oedfa y Sul cynt. Dyna newid a ddaeth dros y beirniad chwerw yn ei hen ddyddiau!) Ac yna'r blynyddoedd yn Lerpwl, 11e y deuthum i gyntaf i glywed am yr aelod o gapel Newsham Park a oedd yn fowliwr anghyffredin o gyflym i glwb criced Clubmoor. Sôn a wna Ceiriog Williams fwyaf am ei yrfa fel athro, parod i arbrofi bob amser, ac awyddus i gynorthwyo'i ddisgyblion yn eu horiau hamdden yn ogystal ag yn oriau'r ysgol. Parhaodd i arbrofi pan ddychwelodd i Gymru i fod yn brifathro'r Ysgol Ganol yn Abergele. Aeth wedyn yn brifathro i'r Wyddgrug, a sylweddoli yno yr angen i roi hyfforddiant i'r plant ar gyfer galwedigacthau yn y swyddfeydd a'r masnachdai lleol. Gofalai roi digon o sylw i'r plant araf, ac ni chredai ryw lawer mewn arholiadau na mewn nodi safle plentyn ar restr dosbarth. Llyfr y mae'n anodd ei ollwng o'ch gafael yw hwn unwaith ichi ddechrau arno, ac y mae'n ychwanegiad gwerthfawr at gyfres Llyfrau Poced Gomer, a'r diwyg a'r argraffu'n ddeniadol a glân. HARRI WILLIAMS