Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDI LLANC Llanc o frodor gwineuddu yn gorwedd yn feddw yn ymyl rhes o bympiau petrol ar fin y ffordd yn Awstralia. Meddw ar wirod y dyn gwyn, gwirod yn gysur i'r truan yn ei dlodi, yntau wedi suddo dan bwn rhwystredigaeth ei bobl. Ysglyfaeth y fugeiliaeth a fu'n dwyn oddi ar ei dadau dir ei freuddwyd, yn difa cynhaliaeth eu canrifoedd, ac yn ymelwa ar gyhyryn a gewyn ei hil. Mae llun y llanc yn aros yn y cof, llanc o frodor gwineuddu yn gorwedd yn feddw yn ei freuddwyd. EUROS BOWEN