Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TASMANIA Golwg ar chwilen fawr wineulwyd wedi digwydd troi drosodd ar ei chefn, a hithau heb allu ymunioni eilwaith ar ei choesau. Ar hyn dyma angladdfa o forgrug wedi hel am ei thor tyner a'i chuddio hi'n llwyr dan amdo eu blys. Erbyn y bore staen ei diwedd oedd yr olwg yn y man lle y trechwyd y ddiymadferth: Golwg ar driniaeth y dyn gwyn o frodorion Tasmania. EUROS BOWEN