Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PASG YNG NGHRETA Mewn Eglwys yn Heraclion Carnleidr Cretaidd oedd, ei esgidiau duon yn sgleinio hyd at ei bengliniau, gyda throwsus marchogaeth, siaced agored, mwstas fel cyrn beic, a wyneb fel cyfrwy. Cynheuodd ei gannwyll wrth y goeden fflamau, plygodd i gusanu eicon y Forwyn, yn un o feibion Duw. Mynachlog Cera Gwelsom gampweithiau'r Bysantiaid yn rhesi yn yr orielau yn Athen. Gwelsom y ffrescoau'n odidog mewn eglwysi di-allor, di-siant. Ond yma mae'n gymhlethdod byw, Joachim ac Anna'n cusanu, Efa'n edifar, ac Adda'n flin, y lliwiau'n rhemp hyd y waliau, a'r eiconostasis hynafol o goed olewydd yn ein cadw rhag y cysegr, yn rawnwin ac yn belicaniaid aur. Yn y gornel, Mair a'i Mab yn galed-gynnes, yn annwyl-bellennig, yn goch, yn arian, yn aur, a chreithiau bwledi'r Twrc yn britho eu nefoedd. Ac wrth y canhwyllau, yr hen fynach yn rhannu gwybodaeth a melysion. Croglith Uniongred Yr eglwys yn goelcerth o ganhwyllau, y merched yn ddu mewn galar, y dynion yn eu parch, angladd Iesu.