Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Problem y Prifysgolion 'Lluniwyd dyn felly mewn modd mor ddymunolfel nad oes ganddo unrhyw syniad cyfiawn o'r gwir ond amryw o syniadau gwych o'r gau' (Pascal) CWRS a chyflwr dosbarthiadau prifysgolion ym Mhrydain ac yn Ewrop oedd prif fater myfyrdod P. Mansell Jones yn ei flynyddoedd olaf, ac 'y mae ei ddadansoddiad o'r broblem a'i gyfraniad tuag at ddatrys y broblem yn hawlio sylw heddiw fwyfwy,' fel y dywedodd Mr. Saunders Lewis1. Traddodwyd yr araith a ganlyn gan P. M. Jones mewn cyfnod pan 'ddangosodd ef ei fod yn llawer mwy na bon connoisseur mewn barddoniaeth a'r bywyd mewnol. Yr oedd ynddo elfen broffwydol'2. Codwyd ýr araith o'r University of Manchester Gazette; Rhif 29, Mehefin 1961, tt. 5-6. Troswyd hi i'r Gymraeg gyda chaniatâd Prifysgol Manceinion a Miss Nan Jones, chwaer P. M. Jones, gan John H. Watkins, Coleg y Brifysgol, Bangor. O dan y teitl 'The Recovery of French Studies,' hon yw'r bennod gyntaf yn y llyfr The Assault on French Literature and other Essays (Gwasg Prifysgol Manceinion, 1963). Brodor o dref Caerfyrddin oedd Percy Mansell Jones. Ganed ef ar 11 Ebrill 1889 a bu farw ar 24 Ionawr 1968, bedwar mis cyn yr 'événements' yn y Sorbonne a ddechreuodd gyfnod o ddifrod ac o newid mawr ym Mhrifysgolion Ffrainc, Ewrop ac America. Bu'n Athro Ffrangeg a Ieithyddiaeth Rwmans yng Ngholeg y Gogledd, Bangor, 0 1937 i 1951. Ef oedd Athro cyntaf Llên Fodern Ffrainc ym Mhrifysgol Manceinion 0 1951 hyd at ei ymddeoliad yn 1956. Yn 1960 derbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. 'Yr oedd P. M. Jones yn un o fawrion byd y prifysgolion yn holl wledydd Prydain ac yn Ffrainc. Gadawodd ei argraff ar fywyd cymdeithasol colegau Caerdydd a Bangor. Buasai'n efrydydd yn Aberystwyth. Ond yng ngholeg Balliol yn Rhydychen y daeth y deffro mawr iddo. Derbyniwyd ef yn aelod o'r cwmni dethol o efrydwyr a oedd yno ar y pryd, cwmni yr oedd Aldous Huxley a Thomas Earp a'u cymheiriaid yn ymlonni ynddo'3. Cyfarfu P. M. Jones â Mr. Saunders Lewis am y tro cyntaf yng Ngholeg Caerdydd yn ystod 1923, pan ddaeth a small figure with a visage in which I perceived once and for all a pure eighteenth century mask'4 yno i draddodi yn Saesneg ddarlith ar y ddrama Gymraeg gyfoes. Bu'r ddau yn gyfeillion mynwesol o hynny ymlaen. Dyma, wedi ei drosi i Gymraeg, yr hyn a ysgrifennodd yn 1950 yn ei deyrnged i'w gydymaith ysbrydol: Fe gaiff y problemau hynny sy'n deillio o'r celfyddydau dyneiddiol problemau diwylliannol, crefyddol, athronyddol, gwleidyddol a chymdeithasol er mai un rhai ydynt yn y bôn ymhob gwareiddiad mawr, fynegiant arbennig drwy wahaniaethau cenedlaethoi. Afraid tanlinellu pethnasedd a phwysigrwydd araith P. M. Jones yn y byd sydd ohoni yng Nghymru yn 1979. 'Y maebod heb bendefigaeth a dosbarth llywodraeth Cymraeg yn peri plwyfoldeb mawr hyd yn oed yn y Brifysgol'6.