Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cenhadaeth, Cynhaeaf ac Adladd Ddeng mlynedd yn ôl fe adawodd yr olaf o genhadon Eglwys Bresbyteraidd Cymru Fryniau Mizo yng Ngogledd Ddwyrain India. Fe fu cysylltiad â'r Bryniau hyn, a adnabyddid gynt fel Bryniau Lushai, am dros ddeng mlynedd a thrigain, ac er mai ychydig iawn o genhadon a fu yno prin y bu unrhyw ran o'r byd lle y bu gan bobl o Gymru gymaint o ddylanwad ar fywyd cymdeithas arall. Amcan yr ysgrif hon yw disgrifio yn fras ac argraffiadol ddatblygiad llwyth o bobl yn wynebu newidiadau cymdeithasol aruthrol gyflym, a cheisio mesur cyfraniad a chyfrifoldeb yr ymdrech genhadol. Ar y noson olaf o Chwefror 1966 torrodd gwrthryfel allan yn erbyn Llywodraeth India. Yr oedd plaid wleidyddol, y Mizo National Front, wedi cymryd arfau i geisio ennill annibyniaeth ac wedi ymosod ar yr holl wersylloedd milwrol mewn darn o wlad bron yr un faint â Chymru. Yn y mwyafrif o'r ymgyrchoedd buont yn llwyddiannus, ond yn Aijal, prif dref y dosbarth, llwyddodd y fyddin i ddal ei thir nes i filwyr India ymladd eu ffordd i fyny o'r gwastadedd i'w hachub o'r gwarchae. Yna fe gychwynnodd yr ymdrech hir i ddod â'r wlad yn ôl dan reolaeth. Bu ymladd chwerw yn y coedwigoedd a'r bryniau. Bu llawer o losgi pentrefi ac o ladd, bu llawer o greulondeb ar y naill ochr a'r llall, ac ni thawelwyd y wlad hyd nes i fwyafrif y boblogaeth gael eu diwreiddio o'u hen bentrefi a'u crynhoi i ganolfannau newydd. Hyd heddiw clywir yn achlysurol am fân helyntion yma ac acw, er bod y wlad yn gyffredinol wedi tawelu ac yn wynebu ar gyfnod newydd a gwahanol yn ei hanes. Fy mwriad yw disgrifio cefndir y digwyddiadau cyffrous hyn a cheisio dehongli pennod o hanes gwlad bell a ddaeth yn agos oherwydd gwaith y cenhadon. Darn o wlad, tua 8,000 o filltiroedd sgwâr, yn ymwthio i lawr o Assam, rhwng Bangladesh i'r gorllewin a Burma i'r dwyrain, yw Bryniau Mizo. Gwlad o fryniau uchel a dyffrynnoedd culion ydyw a'r rheini yn rhedeg yn gadwynau o'r gogledd i'r de. Y mae'r wlad i gyd wedi ei gorchuddio gan goedwigoedd trwchus ac nid oes nemor ddim tir gwastad o fewn ei ffiniau. Newydd-ddyfodiaid cymharol i'r bryniau hyn yw'r Mizo, llwyth a ymlwybrodd yn araf i lawr o ororau China trwy Burma ac ymgartrefu yn y bryniau rywdro yn y ddeunawfed ganrif, mae'n debyg. O ganol y ganrif ddiwethaf ymlaen y daethant i gyffyrddiad â thrigolion Ymerodraeth India i'r gorllewin o'r bryniau. Yr oedd peth cyfathrach masnach achlysurol, ond fel rheibwyr ac ymosodwyr creulon ar drigolion y ffiniau y daethant yn adnabyddus. Hyn a barodd i'r Llywodraeth Ymerodrol anfon nifer o ymgyrchoedd i'r Bryniau i'w cosbi o tua 1870 ymlaen, ac yn 1890