Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Balchnoe Y ferch dan yr aur llathrloyw A welais, hoen geirwfais hoyw, Yn aur o'r pen bwy gilydd, Yn rhiain wiw deuliw dydd, Yn gwrando salm þa1chnoe Yng nghôr Deinioel Bangor doe. GDG III. 1-6. Yn ei nodyn cynhwysfawr ar balchnoe ‘arch Noa' cyfeiria Syr Thomas Parry at darddiad balch (o'r Llad. Diw. barca 'llong' trwy barch, BBCS IV 223, 344) ac at awgrym Chotzen (RC xliv. 68) 'mai cyfeiriad cellweirus sydd yma at swn yr organ yn eglwys gadeiriol Bangor bod nodau'r organ fel amryfal leisiau'r anifeiliaid yn arch Noa.' Eithr â ymlaen i ofyn, 'tybed nad gwrando ar draethu hanes y Dilyw yr oedd y bardd yn yr eglwys? Y mae'n werth cofio hefyd fod Noa a'r Dilyw yn destun llawer o chwaraeon miragl yn y Cyfnod Canol. Gw. E. K. Chambers, The Mediaeval Stage, ii, 118, 321, 407; G. R. Owst, Literature and Puípit in Mediaeval England, 499; Cy XXIII. 476. Nid cwbl afresymol efallai dybio fod Dafydd yn cyfeirio at ryw chwarae fel hyn yn yr eglwys.' Yn ei draethawd De arca Noe morali y mae Huoo o St. Victor yn maentumio 'Ipsa Ecclesia arca est quam summus Noe, id est Dominus noster Jesus Christus, gubernator et portus inter procellas huius vitae regens per se ducit.' (Migne, Patrologiae Latinae Cursus Completus, 176, col. 629.) Hynny yw, 'Yr Eglwys ei hun yw'r arch y mae'r ardderchocaf Noa, h.y., ein Harglwydd Iesu Grist, y llywiwr a'r porth ymhlith stormydd y bywyd hwn, ei hun yn ei harwain ac yn ei chyfarwyddo.' Mae'r gosodiad hwn yn teilyngu sylw am ei fod yn cydberthynu'r Eglwys a'r arch (Ecclesia arca), Noa a'r Crist (Noe Jesus Christus), a swyddogaethau Noa a rhai Crist: dywedir fod Noa fel y Crist yn gubernator ac yn portus. Fel y dengys y gair Cymraeg balch (o'r Llad. Diw. barca 'llong') gellid synied am arch Noa fel llong (navis) Noa, ac am yr Eglwys fel llong. Gallai Hilarius o Poitiers sôn am y cydberthyniad hwn yn yr ymadrodd 'extra navem relicti, id est, extra Ecclesiam positi.' Yn ôl y Tad Eglwysig hwn yr oedd yr Eglwys fel llong, instar navis. Yn ei Commentarius in Matthaeum, Patrologiae Latinae Cursus Completus, 9, col. 957, ysgrifenna: 'Et plurimis locis ita nuncupata est: quae diversissimi generis et gentis vectore suscepto, subjecta est omnibus et ventorum flatibus et maris motibus. Atque ita illa et saeculi et immundorum spirituum vexatur incursibus. Propositis enim periculorum omnium motibus, Christi navem, id est, Ecclesiam introimus scientes nos mari ventoque jactandos.' Mor gyffredinol oedd y syniad fod yr Eglwys megis llong fel yr adeiledid eglwysi ar ffurf llongau yn y cyfnod Gothig ar gelfyddyd. (Fe gofir fod y gair