Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nodyn ar Yr Ogof Chwarae teg i T. Rowland Hughes. Ar ôl llwyddiant mawr O Law I Law (1943) a William Jones (1944) buasai wedi bod yn ddigon hawdd iddo ddatblygu fformiwla boblogaidd ar gyfer cyfres o nofelau Cymreig eu cefndir ac agos-atoch-chi eu harddull, yn lle mentro llunio nofel mor uchelgeisiol â'r Ogof (1945). Ond mentro a wnaeth, ac y mae'r mentro yn haeddu clod a pharch oherwydd y mae'n adlewyrchu agwedd iach ac aeddfed y nofelydd tuag at ei waith ei hun a hynny mewn cyfnod pan flinid ef yn greulon gan boen a gwendid corfforol. Gwyddom oll am y dewrder tawel a oedd y tu ôl i'w waith, ac erbyn hyn y mae ei addfwynder cynhenid a'i gadair-olwyn yn rhan annatod o ymwybyddiaeth lenyddol y genedl. Yr Ogof yw'r unig un o'i bum nofel nad yw'n ymdrin â chymdeithas Gymreig a Chymraeg. Newydd-deb y fenter, felly, sy'n taro'r darllenydd yn gyntaf oll, er nad peth newydd oedd diddordeb creadigol yr awdur yn Nydd Gwener Y Groglith. Ym 1936 ysgrifennodd ddrama-radio yn dwyn y teitl Gwener Y Grog, a darlledwyd fersiwn diwygiedig ohoni yn Gymraeg ac yn Saesneg ar adeg y Pasg, 1938. Diddorol yw sylwi ar y newidiadau mewn cymeriadaeth a wnaethpwyd gan yr awdur yn ystod y ddwy flynedd rhwng y fersiwn gwreiddiol a'r fersiwn diwygiedig. Cymeriadau'r fersiwn cyntaf oedd Ioan Marc, Simon Pedr, Teulu o Iddewon, a'r Dyrfa; ond erbyn y fersiwn diweddarach gwelwn fod Joseff o Arimathea, nas cynhwysir o gwbl gynt, yn ogystal â'i wraig Leah a'i ferch Ruth, yn cymryd y rhannau blaenaf yn y ddrama, ochr yn ochr â Ioan Marc a Simon Pedr 2. Y mae'n anodd dweud pam y taniwyd dychymyg yr awdur gan gymeriad Joseff o Arimathea, oherwydd ni wyddys nemor ddim amdano ar wahân i dystiolaeth y Testament Newydd. Yn ôl yr Efengylau, "gwr goludog o Arimathea" ydoedd2, a "chynghorwr pendefigaidd"3'. "Hwn ni chytunasai â'u gweithred hwynt" pan gondemniwyd yr Iesu gan yr Iddewon, medd Sant Luc2, ac yng ngeiriau Sant loan, "Yr hwn oedd yn ddisgybl i'r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iddewon" s. O safbwynt creadigol, golygai'r ansicrwydd ynghylch y Joseff hanes fod cyfle gan Rowland Hughes i lunio cymeriadau a sefyllfaoedd nas crybwyllir o gwbl yn y Beibl, ac i olrhain digwyddiadau wythnos y Croeshoeliad yn null y storïwr lleyg. Sadwsead cefnog a pharchus yw Joseff y nofel, a dilynwn ei hynt ef, a'i deulu a'i weision, i Jerwsalem, lle treuliant y Pasg. Wrth iddo ddisgrifio aelodau'r teulu fesul un, manteisia'r awdur ar y cyfle i'w lliwio'n grefftus er mwyn cyfleu peth o hinsawdd gymdeithasol yr oes. Un uchelgeisiol yw Esther, gwraig Joseff, a byddai wrth ei bodd yn byw ymysg crachfoneddwyr Jerwsalem yn hytrach nag yng nghefn gwlad Arimathea: