Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pregethu'r Atgyfodiad WRTH fwrw'r Nadolig yn Sir Drefaldwyn flynyddoedd lawer yn ôl bellach, sylwais fod yr Ẅyl i'w dathlu yn y Capel Wesle, â'r adloniant poblogaidd a nodweddiadol Gymreig hwnnw a elwir yn Gyfarfod Pregethu, ac yno yr euthum*. 'Roedd dau berfformiwr: testun y naill oedd 'Yr Atgyfodiad,' a'r 'Pentecost' oedd testun y llall, ac 'roedd y ddwy bregeth mor huawdl â'i gilydd, am a wn i. Yr un gyntaf a gofiaf orau, ac er mor aneglur fy atgof o'r achlysur pregethwrol hwn ar ddydd Nadolig, credaf mai hon fuasai'r bregeth arobryn, pe buasai unrhyw wobr, yn y gystadleuaeth bulpudol. Os iawn y cofiaf, fe ymdriniwyd â'r Atgyfodiad o safbwynt ei sail hanesyddol a ffeithiol, a mawr oedd yr argraff a wnaethpwyd arnaf ar y pryd gan y dull hwn o bregethu yn ogystal â chan y bregeth ei hun. Y pregethwr, gyda llaw, oedd y Parch. John Roger Jones. Wrth edrych yn ôl, fodd bynnag, peth arall sy'n fy nharo, sef ddarfod i'r ddau bregethwr yn y ddwy oedfa ddiystyru un o brif wyliau onid prif ŵyl y calendr Cristnogol. Ni chyfeiriwyd at y Geni; ni chanwyd yr un garol nac emyn Nadolig; hwyrach, am eu bod mor brin. Hyd yn oed heddiw, gan nad yw wedi ei ddiwygio er 1929, 'does dim ond tair 'carol' yn adran 'Carolau' Emynau a Thonau, o'u cymharu â 33 yn Revised Church Hymnary y Presbyteriaid Saesneg eu hiaith, 18 yng Nghaniedydd yr Annibynwyr, a 16 yn Congregational Praise yr Annibynwyr Saesneg gynt. Ond os chwiliwn am foliant i ddathlu'r Atgyfodiad, beth a welwn ni? Ni cheir dim ond chwech o emynau at y Pasg yn y mynegai i Emynau a Thonau heb yr un adran arbennig, tra ceir yn Revised Church Hymnary 19 emyn ar Christ's Resurrection and Exaltation, 17 yn Congregational Praise, ac yn Y Caniedydd 16 emyn at 'Y Pasg ei Atgyfodiad a'i Esgyniad,' er nad oes iddynt adran arbennig. Y mae emynau eraill yn Emynau a Thonau y gellir eu defnyddio at Sul y Pasg. Bwriad y rhagymadrodd amharchus hwn yw codi'r cwestiwn cyffredinol cyn dod at yr un arbennig dan sylw, sef, yn gyntaf, Beth yw arwyddocâd a phwysigrwydd y gwyliau Cristnogol fel achlysuron priodol i gyhoeddi'r Efengyl, nid drwy gyfrwng y pregethu'n unig, ond drwy ein moliant, ac i ba raddaú, bellach, y dylai ein pregethu fod yn baratoad systematig iddynt? Credaf fod hyn yn bwysig o safbwynt pregethu adeiladol, ac fel y byddwn i a siarad yn bersonol yn arfer rhoi lle arbennig i bedwar Sul yr Adfent, a dewis carolau ac emynau at y Suliau hynny, felly y byddwn yn ystyried y Grawys yn baratoad ar gyfer y Groglith a'r Atgyfodiad fel anterth hanes yr Efengylau, a chyda llaw, yn pregethu'r Atgyfodiad ac yn dewis moliant priodol ar y Sul neu'r ddau Sul ar ôl y Sul hwnnw pan fyddai cynifer o'r gynulleidfa oddi cartref ar eu gwyliau. Ond yn y drefn Bresbyteraidd yng Nghymru y mae hyn yn anodd, onid yn amhosibl, gan nad yw'r gweinidog yn Traddodwyd y rhan fwyaf o'r ysgrif hon fel darlith seiadol yng nghynhadledd adran ddiwinyddol Urdd y Graddedigion yn Aberystwyth ym Medi 1976. Testun y gynhadledd oedd "Yr Atgyfodiad."