Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawysgrifau Amgueddfa Werin Cymru Y mae hen oes o'i mewn hi a gwledig Oludoedd sydd ynddi: Nid mynwent lwyd mohoni Ond lloches ein hanes ni. Owen Parry Owen (1876-1971) YN DDIWEDDAR lluniwyd cofrestr ddisgrifiadol, fanwl o Lsgrau. A.W.C. 1-1,500. Disgrifir y llawysgrifau Cymraeg ynddi yn yr iaith Gymraeg a'r rhai Saesneg yn yr iaith honno. Fe ddilynir y gyfrol hon gan eraill yn y dyfodol. Erbyn hyn cyflwynwyd copïau o'r gofrestr yma i brif sefydliadau archifol Cymru a llyfrgelloedd colegau'r Brifysgol yn y gobaith y bydd ei chynnwys o werth ac o ddiddordeb i ymchwilwyr ym meysydd astudiaethau gwerin. Casgliad cymysg o ddefnyddiau dogfennol a geir yn Archif yr Amgueddfa Werin. Fel y gellid disgwyl mewn amgueddfa rhoddwyd pwyslais o'r cychwyn ar gasglu gwrthrychau, ac yn yr achos hwn ar wrthrychau'r bywyd gwerin. Bu rhai gwŷr brwdfrydig megis T. C. Evans ('Cadrawd'; 1846­1918), T. H. Thomas ('Arlunydd Penygarn'; 1839-1915) ac eraill wrthi yn casglu'n ddyfal o ddiwedd y ganrif ddiwethaf ymlaen. Trosglwyddwyd y casgliadau yma, yn hen offer a chelfi amrywiol, o'r 'Amgueddfa Gymreig,' Caerdydd, i Amgueddfa Genedlaeth Cymru yn gynnar ar ôl ei sefydlu yn 1907. Yn ychwanegol at y gwrthrychau hyn, fodd bynnag, derbyniwyd o bryd i'w gilydd rai defnyddiau llawysgrifol fel ambell ddyddiadur amaethyddol, llyfrau cyfrifon crefftwyr, cytundebau prentisiaeth, llyfrau clustnodau defaid, llythyrau neithior (printiedig), llyfrau ymarferion ysgol, rhestri o eiddo etc. Ystyrid hwy c41 fel rhan o gasgliadau'r Adran Archaeoleg hyd nes i'r Adran Diwylliant a Diwydiant Gwerin gael ei sefydlu yn 1936 dan ofal Mr. (Dr. yn ddiweddarach) Iorwerth C. Peate. (Ffurfiwyd Is-Adran bedair blynedd ynghynt). Bellach maent yn rhan bwysig o Archif A.W.C. Sylweddolwyd yn ystod y tridegau ei bod yn holl bwysig i'r Amgueddfa Genedlaethol gychwyn casglu gwybodaeth ledled Cymru ar wahanol agweddau o'i diwylliant gwerin. Lluniwyd holiadur dwyieithog, manwl yn 1937 i'r pwrpas hwn, ac fe'i dosbarthwyd ar raddfa eang dros Gymru. Dyfynnir o'r rhagair Paratowyd yr holwyddoreg hon gan obeithio y bydd i drigolion pob plwyf yng Nghymru astudio eu plwyfi yn y modd a nodir ac anfon yr wybodaeth a gesglir i Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dengys y pamphled sut y gall y Cymry gynorthwyo gwaith yr Adran hon o'u Hamgueddfa Genedlaethol. Os oes gennych ddiddordeb mewn un (neu fwy) o'r pynciau yr ymdrinir â hwynt, gwerthfawrogir eich cydweithrediad yn fawr bydd hyd yn oed fanion gwybodaeth ar un pwynt yn unig yn fawr eu croeso. Croesewir lluniau neu ffotograffiau hefyd. Wedi iddynt ddyfod i gysylltiad a'r Amgueddfa, gobeithir y deil y gohebwyr i gydweithredu fel yr hysbyser yr Adran o unrhyw ddigwyddiadau (e.e. dinistrio hen dai; arwerthiannau dodrefn ty neu gelfi amaethyddol, etc.) sy'n dwyn perthynas ã'i gwaith