Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfraniad Diwinyddol David Adams (1845-1923) Y MAE i David Adams ei Ie sicr yn hanes datblygiad Diwinyddiaeth yng Nghymru fel prif sefydlydd ysgol newydd o ddiwinyddiaeth athronyddol. Perthynai i'r Ysgol Idealaidd mewn athroniaeth a bu'n gyfrwng i boblogeiddio'r syniadau Neo-Hegelaidd a ddaeth o'r Cyfandir i Loegr a'r Alban yng Nghymru. Gan i'r syniadau hynny dymheru ei gyfansoddiadau diwinyddol cynnar, gellir ystyried Adams fel prif arloeswr y ddiwinyddiaeth ryddfrydol yn ein gwlad. Ef, yn fwy na neb arall, a fu'n gyfrifol am gyflwyno goblygiadau diwinyddol yr Athroniaeth Idealaidd i sylw ei gydwladwyr am y tro cyntaf, a gwnaeth hynny mewn Cymraeg cyhyrog ac eglur. Er mwyn gosod y cefndir yn fras cyflwynir amlinelliad byr o brif ddigwyddiadau bywyd David Adams yn y paragraff hwn ynghyd â rhestr o'r llyfrau a gyhoeddodd. Fe'i ganed ar 28 Awst, 1845, yn Nhal-y-bont, Ceredigion, yn fab i John a Margaret Adams. Ar ôl cyfnod o addysg bu'n gweithio am dair blynedd mewn gwaith mwyn cyn dychwelyd yn ddisgybl athro i Ysgol Tal-y-bont yn 1862. Aeth i'r Coleg Normal ym Mangor yn 1863 ac apwyntiwyd ef yn ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli, yn 1867 ac yn Ystradgynlais yn 1870. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, rhwng 1874 ac 1877, pryd yr enillodd radd B.A., Prifysgol Llundain. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Hawen a Bryngwenith, Ceredigion, yn 1878, a phriododd Jane Evans, merch o'r cylch, yn 1879. Symudodd yn weinidog i Fethesda, Arfon, yn-1888. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, yn 1891, am bryddest ar y testun 'Cromwel', a bu'n llwyddiannus yn y Genedlaethol o bryd i'w gilydd am gyfansoddi traethodau athronyddol. Symudodd i Eglwys Grove Street, Lerpwl yn 1895. Etholwyd ef yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 1913 a dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.D. er anrhydedd iddo yn 1923, ond bu farw ar 5 o Orffennaf y flwyddyn honno, cyn iddo fedru derbyn y radd. Fel gweinidog gofalodd gefnogi nifer o weithgareddau moesol a chymdeithasol ymhob un o'r ardaloedd y bu'n gweinidogaethu ynddynt. Yr oedd, wrth reddf, yn wr trefnus ei ffordd ac arferai neilltuo cyfran penodol o amser bob dydd i'w astudiaethau. Datblygodd fel bardd ac emynydd ar ddechrau ei weinidogaeth gan fabwysiadu'r ffugenw 'Hawen,' ond fel yr âi'r blynyddoedd heibio rhoddai fwy a mwy o Ie i ddiwinydda. Dyma restr o'i lyfrau diwinyddol: Datblygiad (1893); Paul yng Ngoleuni'r Iesu (1897); Moeseg Cristionogol (1901); Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth (1907); Esboniad ar y Galatiaid (1908); Llawlyfr yr Athro (1908); Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (1914). Mae'n wir i'r bardd Samuel Taylor Coleridge ddechrau hau hadau'r Ddelfrydiaeth Ewropeaidd yn Lloegr yn ystod dau ddegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid cyn i James Hutchison Stirling gyhoeddi The Secret of Hegel mewn dwy gyfrol yn 1865, y dechreuodd y syniadau Hegelaidd a gysylltir â thwf rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ddeohrau gwreiddio o ddifri' ym