Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad KATE BOSSE GRIFFITHS, Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru (Y Lolfa, 1977). Y mae casgliad enwog o draethodau gan yr hanesydd gwyddoniaeth Charles Singer yn dwyn y teitl 'From Magic to Science.' A'r 'magic' sydd wedi blaenoesi ac sydd yn dal i gydoesi â gwyddoniaeth y mae a wnelo'r llyfr hwn, sef crefft gyfrin 'dynion hysbys.' Yn ôl Mrs. Griffiths fe all dyn hysbys fod yn 'ddewin, gwyddon, hudwr, swyngyfareddwr, brudiwr, chwidog, widw, dyn cyfarwydd, consuriwr, Dyn Hysbys ond nid rheibiwr.' Ceir dynion o'r fath yn byw ymhob gwlad ac ymhob oes yn enwedig lie mae'r gymdeithas yn un wledig. Y mae rhai o'r dynion hyn yn dal i weithredu fel meddygon gwlad yng Nghymru yn cynnig gwellhâd ar glefydau'r corff a'r meddwl. Ar wahân i lyfr prin J. H. Davies, Hen Ddewiniaid Cymru, bach iawn o sylw a roddwyd i ddynion hysbys Cymru, fel y cyfryw yn ôl pob tebyg, oherwydd bod caddug crefydd wedi mygu ei bri ers canrifoedd. Y mae'r llyfr hwn yn ymgais i agor grwn. Man cychwyn y gwaith oedd diddordeb Mrs. Griffiths ym mywydau ac anturiaethau teulu John Harries o Gwrt y Cadno ac yn llyfr cyfrin rhyw ddyn hysbys (anhysbys) o Sir Ddinbych (gynt) a ysgrifennwyd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. Ymranna Byd y Dyn Hysbys yn naw pennod. Y mae'r ddwy bennod gyntaf yn trafod cefndir a swyddogaeth dynion hysbys gan roi sylw i yrfaon hynod John Harries a'i feibion, ei wrthdrawiad â'r gyfraith ac â Brutus. Meddyg yn cymryd arno'i hun gyneddfau dyn hysbys oedd John Harries ac fe fu'r tyrfaoedd yn heidio ato 0 bob man i gael trin eu clefydau ac i ofyn am ddarogan. Gwêl Mrs. Griffiths gyfatebiaeth rhwng swyddogaeth y dynion hysbys a doctoriaid brodorol rhai o lwythau yr Affrica. Yn y drydedd bennod rhoddir sylw i lyfrau cyfrin y dynion hysbys, dyfynnir nifer o gyfeiriadau atynt mewn llenyddiaeth Gymraeg a dadansoddir cyfarwyddiadau daeargoel (geomancy) llyfr cyfrin y dyn hysbys o Ddinbych. Y mae chwe phennod olaf y llyfr yn trafod gwahanol weddau ar grefft y dyn hysbys. Ym Mhennod IV, Swyn a Llun, dangosir sut y mae stoc o swynion ar gael yn y Gymraeg yn erbyn clefydau o wahanol fathau, rhai ohonynt yn rhan o gynhysgaeth y dynion hysbys,-sydd yn cyfateb i swynion a geir yn llen Ladinaidd yr oesoedd canol ac yn llên gwerin ardaloedd eraill o Brydain. Daw rhai o'r swynion a ddyfynnir gan Mrs. Griffiths o lawysgrifau Cymraeg yr oesoedd canol. Ymdriniwyd â'r swynion hyn yn bur fanwl gan Brynley F. Roberts, Rhai Swynion yn y Gymraeg (BBCS XXI, 198-214) ond ni fanteisiwyd ar waith y Dr. Roberts ar gyfer y bennod hon. Perthyn i fyd y swynion, mi gredaf, hefyd yw'r deunydd a drafodir o dan y teitl Dirgelion (Pennod VI) oherwydd yr hyn sydd yma yw sôn am yr hud a briodolir i rai geiriau a oedd yn rhan o stoc y dyn hysbys. Geiriau yw'r rhain sydd yn deillio o ieithoedd estron fel yr abracadabra neu eiriau swyn sgwâr Pompeii Sator, arepo, tenet opera rotas a gopïwyd i lawysgrifau ymhob gwlad Ewropeaidd drwy'r oesoedd. Gallai deunydd y bennod ar Ddirgelion fod wedi ei gyfuno gyda deunydd y bennod ar 'swynion.' O sôn am eiriau cyfrin y swynion, symudir ymlaen at werth gwrthrychau cyfrin (Pennod V) fel y 'maen magl' neu'r 'glain neidr' y credir iddynt gael eu ffurfio o boer nadredd. Cerrig yw'r rhain sydd, yn òl traddodiad, yn berchen ar rinweddau arbennig i gynhyrchu moddion gwella clefydau pan roddir hwy mewn dwr. O dan yr un pennawd cyfeirir at werth ffynhonnau iachaol a chloir y bennod gan gyfeiriad at wyddor astroleg a'r dull canoloesol cyffredin o gysylltu rhannau'r corff ac arwyddion y Zodiac. Rhoddir llun Eidalaidd o'r flwyddyn 1495 yn cynrychioli'r dyn Zodiac, Hun y mae iddo ei gymar mewn llawysgrif Gymraeg o'r un cyfnod, sef llawysgrif Mostyn 88 (a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar siaced Iwch 'A Guide to Welsh Literature, Vol. I). Dechreua Mrs. Griffiths yn ôl yn y cynoesoedd wrth drafod Darogan (Pennod VII). Ceir sôn ganddi am draddodiadau Celtaidd a Gwyddelig sy'n tarddu o'r byd paganaidd, ac am awenyddion Gerallt Gymro. Neidia ymlaen wedyn at astroleg Ewropeaidd a dengys sut y dibynnai horosgop Henry Harries o Gwrt y Cadno ar wybodaeth o'r Zodiac, a sut y mae'n cyfateb i batrwm horosgop a gyfansoddwyd gan yr astrolegydd Johannes Keppler ym 1608. Ym mhennod VIII rhydd sylw i'r Gelfyddyd Ddu a sonia am dair gwedd arni: deisyfiad ar yr ysbrydion os bydd gwr wedi gadael ei wraig; lladd dol yn y fynwent; a galw ar ysbrydion y meirw.