Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDI (CERFLUN EPSTEIN YNG NGHAPEL NEW COLLEGE, RHYDYCHEN) ER COF AM Y PARCH. WILLIAM MORRIS Darn o Feirionnydd, awenydd hynod, Câr onest, addfwyn cawr ein heisteddfod; Ffraeth a digymar oedd ei ddawn barod, A'i naws yn gydnaws â salmac adnod; Yn eglur gennad, hyglod gan werin, I wyr y comin cyhoeddai'r cymod. LAZARUS Yn y garreg, grym y deffro sy'n gryndod sydyn o gyhyrau, sy'n sugniad syn o ana'l, sy'n wthiad brwd o waed wedi'r angau stond. Yn y maen, rhwygir y rhwymau swrth gan fraich ac ysgwydd, a symud wna esgyrn yn y dwylo a'r traed wedi cramp y pedwar dydd. Yn y marmor, trech na marw yw'r gelf a dreiddia fel galwad o Fethania trwy glust y garreg; 'Lazarus, tyrd allan.' A'r hwn a fu farw sy'n dod. HUW LLEWELYN WILLIAMS BRYAN MARTIN DAVIES