Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR FYNYDD RHIW Mae lleoedd na ellir eu lluosogi. Niwl y bore'n trwmdroelli a'r môr ym Mhorth Neigwl yn golchi, golchi glendid y cerrig yn ddyfal ddibroffid a'i rwndi cras ar y graean yn brolio dygnwch ei anfeidroldeb crwn. 'Roedd y creigiau'n oer i gledr llaw ben bore, oer ac annhymig greigiau, llaw heb gydiad llaw, oerni heb wres, gwres rhag pob gwahanu, gwres gwaed mewn gwythiennau, meidroldeb clyd, gwres gwaed nas tywalltwyd. Yn y bore, 'roedd y niwl yn cuddio, cuddio'r tai a chuddio'r traethau, ac yn cau, cloi, clymu'r awyr oer amdanaf ar y mynydd. A rhedais, rhaeadrais o'r uchelderau, o'r anllygredig awyr denau at farwol guriad y cread islaw, at fy nh9, dan fy nho, a chlosio'n dynn at wres y glo sy'n llosgi; at y gwres, at y gwres, at y gwres. R. GERALLT JONES