Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Rwy'n sefyll wrth fy nrws ar ddiwedd Mai. Mae'r dail yn fy mhoblogi: ysgaw a gellyg ac afalau yma yn y pant a'r hen a'r newydd yn fyddinoedd ar wahân ar yr allt. Y dorf dieithriaid yn unffurf laswyrdd fel y nos, a phlant yr hen gymdeithas, y tfawydd a'r deri a'r ynn yn eu llwyd a'u gwyrdd a phob math o lwydwyrdd, llwydfrown yn gymysg, yn llithro'n gynnil o gysgod i lafn o heulwen, ond yn unigolion, serch hynny, yma a thraw ar y gefnen. Ni fedraf sefyll wrth fy nrws heb weld y rhwyg, y llinell ddu rhwng y coed hen a'r fforestydd newydd sy'n cuddio'r haul rhag y dail eiddil ym môn y clawdd. ANGLADD YN YR HAF Angau oedd yn fyw yn y lle hwnnw, angau'n unig, er bod yr haf wedi cyrraedd a'r dail yn glasu'r bwa dros y bargod, dyfnhau'r pellterau trwy'r drws agored, a'r haul yn ei ddireidi anweddus yn hyrddio saethau golau trwy'r ffenestri bach i gynnal brwydr goeg rhwng y seddau. Daeth i mewn ar ysgwyddau brethyn, ar draed trwm rhwng y rhesi mud o boptu, gweision ffermydd yn syllu mewn siwtiau a'u dwylo corniog yn farw fel bachau'n hongian wrth anweddustra'u gwisg. R.GERALLTJONES DÖL-Y-BONT R.GERALLTJONES