Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMBIL CYWIR, NEU ALWAD, AR DDYN, A DDAETH YN GNAWD HANES. (Cerdd o'r dilyniant Wigilia Wielkanocna 1966, "Gwylnos y Pasg 1966," sy'n dathlu milflwyddiant Cristnogaeth yng Ngwlad Pwyl.) Arnat Ti y galwaf, Ddyn, amdanat Ti y chwiliaf canys ynot y gall Hanes dynol gael hyd i'w Gnawd ei hun. Atat Ti yr af, ac ni ddywedaf wrthyt am "ddyfod," ond, yn syml, am "fod." Bydd Di yno, lle na welir unrhyw frud gweithredoedd, ond lle'r oedd dyn, dyn â'i enaid, calon, dyhead, dioddefaint ac ewyllys, a theimladau'n ei ysu a'r cywilydd santeiddiaf yn llosgi bydd y Seismograff tragwyddol i'r hyn sy'n anweledig ond Gweithredol. Ddyn, ynot y mae'r gwaelod dynol yn cwrdd â'r brig dynol; ynot nid oes o'th fewn na gormes na gwyll, ond calon yn gymwys. Ddyn, ynot y gall pob dyn ddarganfod ei ddiben dyfnaf a gwraidd ei weithredoedd ei hun: drych bywyd ac angau'n syllu'r lli dynol. Atat Ti, Ddyn, nesaf yn gyson drwy afon fas Hanes, gan gerdded tuag at bob calon, cerdded tuag at bob meddwl (Hanes: sef sathru meddyliau a marw calonnau). Chwiliaf ar ran Hanes i gyd am dy Gnawd Di, chwiliaf am dy ddyfnder. KAROL WOJTYLA (loan Pawl II yn awr). (Y Trosiad i'r Gymraeg gan J. P. Brown)