Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Athro a Disgyblion Ysgol Marton 'MYNEGIR ini yn Llyfr y Datguddiad fod "gorsedd-faingc Satan" yn y dyddiau hynny yn Pergamus, ond os oes gan ei Fawrhydi Satanaidd orsedd- faingc yn rhyw ran o Brydain, meddylia yr ysgrifenydd, mai ar oror Clawdd Offa y mae.' Evan Jones (1820-52) neu i roi iddo'i enw mwy cyfarwydd, Ieuan Gwynedd, oedd ysgrifennwr y geiriau hyn yn 1841 a phentref Marton a'r ardal o'i gylch oedd preswylfod Satan. Yn y pentref hwn, yn ôl Ieuan Gwynedd, yr oedd caledrwydd ac annuwioldeb y trigolion, ofergoeledd ac anniweirdeb yn rhemp, 'a hawliodd hen wragedd anllythrennog iddynt eu hunain y gorchestion mwyaf rhyfeddol drwy eu swynion; llawn oeddynt o hunan-gyfiawnder, yn esiamplau ymarferol nad ydyw egwyddorion Pharis- eaeth wedi eu halltudio o'r byd. Y mae eu gwybodaeth am Dduw ac am yr egwyddorion ar ba rai y mae yn llywodraethu dynion yn neullduol gyfyng a chyfeiliornus. Braidd na ddywedwn mai yr unig ddrychfeddwl sydd ganddynt am Dduw ydyw ei fod yn Fod caredig a hynaws, ac yn barod i dderbyn pob cymeriadau yn ddi-wahaniaeth ar ôl i'r bodau a'u gwisgent beidio ac anadlu. Ni chlywodd yr ysgrifennydd yn ei ymddiddan ar werinbobl am neb o'r ardal ac yr oedd un amheuaeth yn eu meddyliau nad oedd yn y Nefoedd. Y mae eu rhagfarn yn erbyn yr Ymneullduwyr yn fawr ac o ganlyniad nid lluosog iawn y cyfleusderau yr ydym yn eu cael i wneud daioni iddynt.' Lle bychan, gwledig mewn gwlad dda odiaeth rhwng Amwythig a'r Drenewydd oedd Marton. Dyna ddisgrifiad y Parchedig John Thomas, Lerpwl, ohono. Derbyniodd John Thomas ac Ieuan Gwynedd eu haddysg yn athrofa Marton. 'Dyn pur a gonest dros ben oedd Ieuan Gwynedd, cydwybodol ym mhobpeth, llym a manwl hyd at fod yn greulawn,' oedd tystiolaeth John Thomas am ei gyd-ddisgybl, ond ar ôl gweld y byd a phrofi o'i aml ergydion, daeth Ieuan Gwynedd yn fwy llariaidd ei ysbryd, er bod gwydnwch ei gymeriad a grym ei weledigaeth wedi'u diogelu hyd ddiwedd oes. Gwr ifanc, un ar hugain oed, oedd Ieuan Gwynedd pan ysgrifennodd y geiriau hyn yn gresynu at gyflwr truenus trigolion Marton a'r cylch, ac am ei fod y pryd hynny braidd yn llym ei ymagwedd nid hwyrach y gellid ei gyhuddo'n dyner o orliwio'r sefyllfa grefyddol a moesol. Byddai'n naturiol i wr ifanc a osododd iddo'i hun nod mor aruchel i ymgyrraedd ato godi'i aeliau mewn syndod a braw pe na bai'r sefyllfa agos cyn waethed â'i ddisgrifiad ef ohoni. Pan aeth i ysgol Marton penderfynodd (1) weddïo'n 'amlach ac yn daerach nag y darfum yn 1838 (2) ddal at yr Ardystiad Dirwestol, trwy gymorth gras hyd fy medd, ac i ymdrechu dwyn eraill i ymuno, (3) ymdrechu bod yn offeryn i achub un enaid yn y flwyddyn hon, (4) ymdrechu bod yn fwy defnyddiol gyda phob rhan o achos Duw (5) ymddiried fy hun yn hollol yn llaw Duw, (6) ac os byddaf farw dymunwn i Mr. Price (os gall) bregethu ar Ddat. 22.14. Cymhwysed fi at yr amgylchiad, yr hwn sydd yn sicr o'm cyfarfod.' Ymdrechodd ymdrech deg, ac ategwyd ei farn am gyflwr ysbrydol Marton gan ei athro, y Parchedig John Jones, a gadwodd ddyddiadur sydd yn ddarlun cyflawn o'r "dywyll nos" a oddiweddodd y darn gwlad ar oror