Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Brawd Dafydd 1 EISTEDDAI'R Brawd Dafydd ym mhorth yr Abaty'n disgwyl. Ac wrth ddisgwyl, meddyliai. Cofiai fel y cyhoeddodd yr Abad esgyniad y Brenin Harri'r VIII i'r orsedd: "Mae'r Brenin yn farw! Byw fyddo'r Brenin!" A phawb yn llawenychu, canys onid oedd ei wraig, y frenhines, yn nith i Ymherodr y Frenhiniaeth Rufeinig? Ac onid oedd y Pab a hithau'n gyfeillion? Serch hynny, fe wyddai Dafydd yn awr wrth ddisgwyl mai disgwyl am wae yr oedd. Pan orchmynasai'r Abad iddo baratoi bwyd ac ystafelloedd ar gyfer ymwelwyr, ni holodd ddim, dim ond ufuddhau'n ddigwestiwn. Ond pam 'roedd yr Abad mor drist wrth ei adael? Ychydig o Ladin a wyddai Dafydd ond gallai dyngu i'r llall gynnau sibrwd geiriau tristwch-rhyw fformiwla leddf, neu weddi efallai. A oedd ofn arno? Gwr rhadlon braf oedd yr Abad Pedr-gwr a garai firi'r helfa yn ogystal â difrifwch ei fyfyrgell, ac a oedd yn bencampwr yn y naill a'r llall; a phawb yn hoff ohono. Ond ofnai Dafydd fod rhywbeth yn ei boeni ers tro. Ochneidiodd. Wrth edrych ar bysgodlyn yr Abaty ni allai lai na chofio am ei gartref. Cofiai bysgota yn llynnoedd dyfnion afon Ddyfi. A chofiai garu ar ei glannau nes i'w gariad at ei Dduw fynd yn drech na'i serch at lafnesi Abercegir. Rhoesai heibio bethau bachgennaidd a chymerodd iau'r Crist a'r Forwyn. A bu'n hapus ddigon. Er hynny, gwyddai am ambell bwl creulon o hiraeth am ei hen gynefin. Ac nid oedd treigl y blynyddoedd yn lleddfu fawr ddim ar y pwl pan ddeuai. A oedd ei fam, tybed, yn dal ar dir y byw? Ni chawsai adnabod fawr ar ei dad, oblegid fe'i lladdwyd ar Faes Bosworth pan oedd ef, Dafydd, yn dair oed. A sut fyd, tybed, oedd ar Farged, ei chwaer, erbyn hyn? A Hwmffre, ei frawd, a briododd Lowri, hen gariad Dafydd ei hun, ac a oedd bellach yn daid. Byddai'n braf cael eistedd yn haul cynnes ei hen gartref, Abergwydol, unwaith yn rhagor. Daeth y brawd Siôn 3 chwpanaid o laeth enwyn iddo. Yfodd yntau'n ddiolchgar, gan gofio fel y byddai ei fam gartref yn rhoi'r un peth iddo ers llawer dydd. Carai hithau ei Christ a'i chyd-ddyn hefyd. Ailddechreuodd gofio. Cofio ceffylau porthiannus ei gartref ac arogleuon cynnes ystablau a chastiau chwareus y ferlen fach. Dychmygodd ei fod yn clywed ei thuthio eiddgar unwaith eto. Ond chwalwyd ei freuddwydion gan lais eras. "Deffra'r diogyn! Dos i ddweud wrth yr Abad fod y Doctor Coch a'i foneddiges yma, yn barod i archwilio'r fynachlog yn enw'r Brenin." Craffodd Dafydd ar y cwmni dieithr. 'Roedd y foneddiges yi\ lodes hardd ond edrychai'n drahaus ac oer. "Dos yn dy flaen, y celffaint! 'Wyddet ti ddim beth i'w wneud â hi, 'tae ti'n ei chael hi!" Trodd Dafydd ar ei sawdl ac aeth yr Abad. Curodd ar ddrws ei fyfyrgell a cherddodd i mewn.