Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhieingerdd Syr John Diddorol bob amser yw dod ar draws fersiwn cynnar o gerdd, oblegid bydd ei gymharu â'r fersiwn gorffenedig yn rhoi rhyw syniad i ni gymaint o weithio a fu ar y gerdd, a bydd ar yr un pryd yn taflu goleuni ar ddull ei hawdur o gyfansoddi. Fel y gwyddys, nid yr un yw proses y cyfansoddi yn achos pob cerdd o eiddo'r un bardd, ac eto, y tebyg ydyw fod rhywbeth yn gyffredin i wahanol ffyrdd bardd o fynd ati i lunio ei wahanol gerddi, a rhywbeth sy'n arbennig i'w ddull ef ac yn gwahaniaethu'r dull hwnnw oddi wrth ddulliau beirdd eraill. Nid 'dyofod' neu 'ddofod' bychan felly oedd i'm cyfaill, Mr. Derwyn Jones, M.A., Llyfrgell Coleg Bangor, ddarganfod fersiwn cynnar o 'Rieingerdd' Syr John Morris-Jones, ond os 'da damweiniol' oedd iddo ei ddarganfod, nid 'damweiniol' ond cwbl gyson â'i haelioni nodweddiadol oedd iddo rannu ei drysor â mi. Ceir y fersiwn cynnar yn Llsgr. Bangor 18333. Fe'i printiaf isod ochr yn ochr â'r fersiwn a gyhoeddodd Syr John yn Caniadau (Rhydychen: Fox Jones & Co. Kemp Hall, 1907). j laith fy nghariad. Rhieingerdd 'Main firain riain, gain Gymraëg.' Casnodyn Main firain riain gain Gymraeg-Casnodyn Dau lygad disglair fel dwy em Dau lygad disglair fel dwy em Sydd i f'anwylyd i, Sydd i'm hanwylyd i, Ond na bu em belydrai 'rioed Ond na bu em belydrai 'rioed Mor fwyn a'i llygaid hi. Mor fwyn a'i llygaid hi. Am wawr ei gwddw dwedyd wnawn Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn Mai 'r càn claerwynnaf yw, Mai' r cann claerwynnaf yw, Ond fod rhyw lewych gwell na gwyn, Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn, Cynhesach, yn ei liw. Anwylach yn ei liw. Mae holl dyneraf liwiau'r rhos Mae holl dyneraf liwiau'r rhos Yn hofran ar ei grudd; Yn hofran ar ei grudd; Mae'i gwefus fel pe cawsai'i lliw Mae'i gwefus fel pe cawsai'i lliw 0 waed y grawnwin rhudd. O waed y grawnwin rhudd. A seiniai'n beraidd ar ei min A chlir felyslais ar ei min Felyslais megys cãn A glywir megis cãn Y gloew ddwr yn tincial dros Y gloyw ddwr yn tincial dros Y cerryg gwynion mãn. Y cerrig gwynion mãn. Gadewch i'r Saesneg fod yn iaith I werthwyr, prynwyr byd; Seneddwyr, dysgedigion dwfn, Llefaront honno i gyd. Hen iaith fy nghalon, iaith fy nghân, Y gain Gymraeg yw hi; A honno chwery'n hyfryd ar Wefusau 'nghariad i. A chain y seinia'r hen Gymraeg Yn ei hyfrydlais hi; Mae iaith bereiddia'r ddaear hon Ar enau 'nghariad i.