Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Meddyg Gwlad Teyrnged i'r Dr. Ifor H. Davies, Cerrigydrudion. Fues i'n sôn am Prior Street (Rhuthun), yndô, ac oedd 'na gymeriade yno. Oedd yna ryw ddynes fawr, dew, a dipyn bach o fws-tash ganddi hefyd. A rêl Ruthuneit. Cyfarfod hi ar y sgwâr. 'Helo,' medde hi, 'falch iawn o glywed bod chi wedi pasio i fod yn ddoctor.' 'Wel, diolch yn fawr,' medde finne, 'ntê (hen ffrind imi; chwaer i George oedd yn chwarae ffwtbol). 'la, a dw i wedi clywed bod chi wedi pasio'n ddigon uchel i fynd i weld pobol yn 'u tai.' Y Dr. Ifor Davies neu 'Doctor Ifor,' i ddefnyddio hoff enw pobl Uwchaled arno — oedd y llanc ifanc hwnnw a oedd wedi pasio yn ddigon uchel i 'fynd i weld pobol yn 'u tai'! 'Roedd hynny hanner can mlynedd a mwy yn ôl, ond heddiw y mae'n parhau i fod yn ifanc iawn ei ysbryd a'i olwg o hyd. A phetaech chi rywdro yn teithio ar hyd y ffordd fawr, yr A5, o Gorwen i gyfeiriad Betws-y-coed ac yn oedi ger ei gartref, 'Y Moelwyn,' yn fuan wedi mynd heibio Cerrigydrudion, fe gewch gwrdd ag ef, o bosib: gwr mwyn, bonheddig, ä fflach yn ei lygaid a'i lais. Ar ddiwrnod braf y mae'n fwy na thebyg y bydd yn ei ardd (blodau a phlanhigion yw un o'i brif ddiddordebau), ac ar fin nos bydd yn brysur gyda chyfrifon y Capel ac Elusennau'r Plwyf a rhyw waith tebyg, neu allan mewn rhyw gyfarfod neu'i gilydd. Ac os digwydd ichwi gael sgwrs â rhai o'r trigolion, fe gewch wybod yn fuan iddo dreulio oes lawn i'r ymylon yn gwasanaethu pobl bro ei febyd gydag ymroddiad a theyrngarwch nodedig iawn. Hyfrydwch i mi bob amser yw cael cwmni'r Dr. Ifor Davies, ac yn y portread hwn fe garwn i chwithau rannu peth o'r hyfrydwch hwnnw gyda mi. Fe'i ganed ym Mronafallen, yn agos i'w gartref presennol, 27 Mawrth 1901, ac y mae Bronafallen (neu Tŷ Doctor,' fel y dywedir yn amlach na pheidio), yn enw teuluaidd i drigolion Uwchaled, oherwydd fe godwyd y tŷ gan ei daid y Dr. John Davies, a ddaeth yno'n feddyg o Ysbyty Ifan, a bu ei dad, y Dr. Hughie Davies, yno'n feddyg ar ei ôl. 'Roedd o, yn ôl pob sôn, yn dipyn o gymeriad, a'r bardd Dafydd Jones, Tai Ucha, Hafod Elwy, yn cyfeirio ato ar ddechrau ei gerdd i Etholiad y Cwrdd Plwyf yng Ngherrigydrudion fel y 'Doctor Salts a'r Senna'! Saith oed ydoedd Ifor Davies pan fu'i dad farw, a symudodd y teulu bryd hynny i Ruthun i fyw. Yn Ysgol Ramadeg Dinbych, ac o dan ddylanwad Hugh Jones (prifathro Ysgol Ramadeg Llangollen wedi hynny), fe benderfynodd yntau fod yn feddyg fel ei dad a'i daid o'i flaen. Ond i'w fam, yn fwy na neb, y mae'n fwyaf dyledus iddo lwyddo yn ei amcan. Wedi graddio ym Mhrifysgol Lerpwl bu am flwyddyn yn llawfeddyg tŷ (house surgeon) yn Ysbyty Wrecsam, yr unig ysbyty oedd yno bryd hynny, a chael profiad gwerthfawr, yn arbennig gydag achosion o ddamweiniau. Ar ôl hynny pum mis llawn yn feddyg llong ar fordaith i Japan, a thros fil 0 bererinion tlawd a newynog yn ei byrddio yn Jiddah, a llawer o'r trueiniaid yn