Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llosgach Gwybydd nad oes pechod casach Na godineb brwnt a llosgach, Y wnaeth difa da a dynion A dwr diluw, tan a brwmston. Dyna a ddywed y Ficer Prichard am y pwnc sydd o dan sylw ac y mae ei agwedd ef yn adlewyrchiad digon teg o'r ffordd y mae'r Eglwys ac, yn wir, y gymdeithas yn gyffredinol yn edrych ar y berthynas waharddedig hon. Ond i ddechrau gyda rhyw fath o ddiffiniad, prin bod angen edrych ymhellach na Geiriadur John Walters. Yn ôl hwnnw, llosgach, ymlosgach neu drallosgach yw 'godineb o fewn cyfagos achau, anniweirdeb (anlladrwydd) o fewn graddau gwaharddedig i ymbriodi ynddynt (carnal commerce with one that is too near a-kin).' Ac yn ôl Geiriadur Dr. John Davies (1632) llosgach yw 'incestus'; o'r gair Lladin hwn, wrth gwrs, y daw'r Saesneg 'incest.' Yn ôl Morgan, 'lncestum alludes to the cestus or girdle of Venus, which in a lawful marriage was worn by the woman and loosened by the husband as an omen of conjugal and parental happiness; its disuse in an unlawful marriage rendered it incestuous or ungirdled.' Gellir dosbarthu llosgach yn rhwydd i dri chategori: (i) perthynas rywiol rhwng tad a'i ferch neu rhwng mam a'i mab. (ii) perthynas rywiol rhwng brawd a chwaer a (iii) perthynas rywiol rhwng perthnasau gwaed eraill. Mae'r arbenigwyr meddygol ac anthropolegol dros y byd i gyd yn gytûn mai perthynas rywiol rhwng mam a'i mab yw'r ffurf fwyaf anghyffredin o losgach. Ceir digon o gyfeiriadau at losgach yn yr Hen Fyd ond yma eto y mae gwaharddiad egnïol a digymrodedd i unrhyw weithred o'r fath. Mae hyn yn arbennig o wir am yr Iddewon ac fe'i gwelir yn yr adnodau canlynol o Lefiticus (xviii: 6, 7, 9): 6. Na nesäed neb at gyfnesaf ei gnawd i ddinoethi eu noethni; myfi yw yr Arglwydd. 7. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha; dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. 9. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. Y gosb am losgach oedd alltudiaeth neu farwolaeth. Serch hynny, ceir enghreifftiau o losgach yn yr Hen Destament. Cyflawnodd Lot losgach gyda'i ferched ar eu hanogaeth hwy am eu bod am gael plant. Priododd Abraham ei hanner-chwaer, Sara, ac 'roedd Moses yn fab i berthynas rhwng modryb a'i nai. Digon tebyg i safbwynt yr Iddewon oedd un y Groegiaid (er eu bod yn disgrifio ymlosgach ymhlith y duwiau, e.e., yr oedd Zëws a'i wraig Hera yn frawd a chwaer), y Rhufeiniaid a'r Tseiniaid. Mewn rhai gwledydd caniateid llosgach i'r teulu brenhinol, er iddo gael ei wahardd i'r bobl gyffredin. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus o hyn, wrth