Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau MELFYN R. WILLIAMS, Doctor Alun. Bywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts (Gwasg y Lolfa) tt. 176. Pris £ 1.75. Nid gorchwyl bychan i gofianwyr ydyw cyfuno bywyd eu gwrthrych ac astudiaeth fanwl a beirniadol o'i waith. Y mae cyfuniad o'r fath yn gofyn am ymchwil ac adnabyddiaeth drylwyr o gynnyrch y gwrthrych heb sôn am wybodaeth ffeithiol o gwrs ei fywyd. Erys beirniadaeth a gwerthfawrogiad ar y naill law a bywgraffiad ar y llall ac efallai mai annoeth, os nad anodd, ydyw eu huno. Serch hynny, nid oes amheuaeth, lle bo'r defnyddiau crai ar gael, fod astudiaeth o fywyd a gwaith unrhyw berson, o'u cyfuno, yn sicr o adlewyrchu'r gwrthrych yn llawer iawn mwy byw a chreu cofiant mwy sylweddol a gwerthfawr na phe cedwid y naill ar wahân i'r llall. Credaf fod personoliaeth a bywyd gwrthrych y gyfrol hon a'i gynnyrch amrywiol mewn sawl maes yn sialens i unrhyw gofiannydd. Gwrthodir dehongliad yn aml onid oes ymdrech barhaus i gyfuno'r cyfan yn un astudiaeth lawn. A chaniatáu'mai doeth oedd cael cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ysgrifennu cyfrol ar fywyd a gwaith yr Athro R. Alun Roberts mor fuan wedi iddo farw, a ffrwyth y gystadleuaeth honno ydyw'r "pwt hwn o gofiant" i ba raddau tybed y llwyddodd yr awdur yn yr ymdrech? Yn sicr ddigon, ac o frasgamu drwyddi, y mae'n amlwg fod y gyfrol wedi ei hysgrifennu yn fwyaf arbennig i'r Cymry hynny a ddaeth i adnabod yr Athro drwy gyfrwng y radio, a phwy ohonom nas clywsom, ac ar ei orau, efallai, yn traethu wrth geisio ateb cwestiynau rhaglen Byd Natur ac athronyddu uwch eu pen. Llwyddodd yr awdur i ddarlunio ardal mebyd yr Athro yn effeithiol ddigon a geilw sylw at bryderon a gofalon y teulu yn y "gymdogaeth ynysig" y ganwyd ef iddi. Daw peth o ramant bywyd cefn gwlad i'r wyneb yn nhudalennau blaen y gyfrol ac nid oes amheuaeth i'r blynyddoedd cynnar effeithio'n ddwfn ar y gwrthrych. Pa ryfedd i Alun Roberts gyda'i ddawn i ganfod a'i feddwl praff, astudio am oes bron y gymdeithas fugeiliol y ganwyd ef iddi? A chan fod yr Athro wedi ysgrifennu a darlithio'n helaeth ar y cyfnod, y mae'r awdur wedi pwyso'n weddol drwm ar ei ysgrifau ac atgofion ei gyfoedion. Bywyd deublyg y chwarel a'r tyddyn a nodweddai blentyndod yr Athro, a dangosir iddo fanteisio ar weithgareddau'r ddau fyd, er iddo ddangos llawer iawn mwy o hoffter a diddordeb ym myd y tir wedi hynny. Yn anad dim, yr oedd Alun Roberts yn bersonoliaeth gymhleth ryfeddol, ac er i'r awdur ysgrifennu sawl pennod amdano fel athro ysgol a choleg, gwyddonydd ac ymchwilydd, ymgynghorydd amaethyddol, darlithydd dosbarth nos a chyrsiau gradd, darlledwr a llenor, gweinyddwr adran a phwyllgorddyn, ni chredaf fod yr holl weithgareddau hyn wedi eu trafod gyda'r manyldeb a haeddant i ddyfod i adnabyddiaeth gywir a chlòs o'r bersonoliaeth. Er i'r Athro ymddangos ei fod yn morio drwy'r cwbl yn eithaf hapus, lawer gwaith fe'i clywais yn dyfynnu Oscar Wilde: For he who lives more lives than one More deaths than one must die. Nid oes i'r gyfrol ond oddeutu chwe ugain ac un o dudalennau cofiannol. Cynnwys y gweddill gyfres o ddarluniau (heb fod o safon uchel), rhai o atebion yr Athro i gwestiynau Byd Natur (ymddangosodd cyfrol o atebion eisoes), ffynonellau'r defnyddiau cofiannol (y mae'llawer o wallau wedi llithro i mewn yma, nodais bedwar ar dudalen 125 yn unig; yn wir, brithir y gyfrol â llawer o gamgymeriadau mân eraill heb esgus drostynt o gwbl), ei lyfryddiaeth (heb honni ei bod yn gyflawn, ac nid ydyw o bell ffordd), testunau ei sgyrsiau radio dros y blynyddoedd, a'r mynegai. Y perygl wrth anelu at gyfrol o'r fath ydyw baster a gorgyffredinolrwydd, a syrthiodd yr awdur i'r fagl, er mai teg ydyw dweud i hyn fod yn amlycach mewn rhai penodau nag mewn eraill. Y mae'r cyfeiriadau at yr Athro fel addysgwr yn weddol lawn a theg, a dengys y gyfrol mai addysgwr yn anad un peth arall oedd Alun Roberts. Gresyn, serch hynny, na chawsom fwy o fanylion am ddatblygiad ei Adran yng Ngholeg y Gogledd yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel. Beth, tybed, a barodd iddo lynu'n gryf at gwrs gradd anrhydedd yn cynnwys Botaneg bur, ac yntau o bawb yn wladwr ac yn ei elfen yn ymdrin â phynciau'r tir? Llwyddodd i greu Adran Botaneg Amaethyddol o safon uchel ac yr oedd bob amser yn gofalu am arholwyr allanol o'r rheng flaenaf