Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

D. BEN REES, Cymry Adnabyddus 1952-1972. (Gwasg Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1978) tt. 215. Pris B. Yn y byd cyhoeddi yng Nghymru, mae egni D. Ben Rees yn ddi-ben-draw. Yma fe wna ymgais i lenwi'r bwlch sydd yn dal i rythu yn hanes bywgraffiadol ein gwlad ers i'r atodiad i'r Bywgraffìadur Cymreig gyrraedd ei derfyn ym 1950. Yn ôl y sôn, mae'r llafur o baratoi atodiad mwy diweddar yn mynd yn ei flaen, ond hyd nes i hwnnw ymddangos, bydd rhaid gwneud y gorau a fedrwn ni â Chymry Adnabyddus 1952-1972, gydag atodiad byr am y flwydd- yn 1951. Cefais gryn fwynhad wrth bori yma a thraw yn ei dudalennau (yn sicr nid llyfr i'w ddar- llen o glawr i glawr yw cyfeiriadur o'r math hwn), ond o ystyried y gyfrol yn ei chrynswth, mae ymateb y darllenydd yma yn dwyn i gof ateb Ffrancwr y ganrif o'r blaen y gofynnwyd iddo pwy oedd bardd cyfoes mwyaf ei wlad. "Victor Hugo," meddai, "hélas." Nid oes gwadu i'r llyfr ei rinweddau. Mae'r portreadau yn gynnil ac yn ddiddorol, wedi eu cyfleu mewn iaith gymen, ddirodres. Mae yma luniau hefyd. Gesyd yr awdur yn glir o'n blaen y manion pwysig a'r dyddiadau angenrheidiol y mae'n anodd rhoi bys arnynt pan fo'r galw. Fel y dywed Mr. Rees, "nid oes gof tebyg i gof llyfr," ac y mae'r gyfrol hon yn ein hatgoffa o'r bylchu anaele a ddigwyddodd yn y chwedegau yn hanes ein cenedl, yn arbennig felly y teneuo a fu yn y rhengoedd blaen rhwng 1968 a 1971. Bydd y gwaith hwn yn gaffaeliad hwylus i'r chwilotwr ysbeidiol a'r naturiol ymholgar, felly, a bydd yn gyfrwng setlo mynych ddadl ynglyn â gyrfaon rhai o lewion diweddar Cymru. Wedi dweud cymaint 1 hynny, 'Rhai Cymry Adnabyddus 1951—1972' a ddylai fod yn deitl i lyfr Mr. Rees. Dywed ei fod wedi casglu gwybodaeth am ddau gant o Gymry hysbys, a bod costau argraffu wedi ei orfodi i ddethol cant un deg a naw ohonynt ar gyfer y cyhoeddiad presennol, gydag ail gyfrol yn yr arfaeth. Bydd ei hangen. Yn y cyfamser, byddai'n ddiddorol gwybod ar ba sail y corlannodd yr awdur y 119 sydd gerbron, a pha faint o'r defaid coll sydd yn y ddiadell arall. "Ni fydd pawb yn cytuno â'r dewis," meddir, i bylu min arfau'r beirniaid, ond a derbyn bod i fympwy personol ei le, mae'n anodd gennyf dderbyn bod 34 0 119, neu 32%, traean o'r Cymry adnabyddus a fu farw yn y cyfnod hwn yn weinidogion, neu fod gweinidogion ac academyddion yn unig yn cynrychioli 56% ohonynt. Cwestiwn naturiol i'w ofyn, wrth gwrs, yw 'Adnabyddus i bwy?' ac mae'n ymddangos i mi fod Mr. Rees wedi baglu i'r tir neb sydd rhwng Bywgraffiadur a Pwy oedd Pwy? Er gwaethaf swm yr ymchwil bersonol a olygodd paratoi'r gyfrol i'r awdur, fe ddaw'n amlwg i'r lleygwr llengar yn gynnar iawn fod nifer go lew o'r enwau y gallai ddisgwyl eu gweld yma ar goll. Prysuraf i ychwanegu nad mater o ragfarn amlwg sydd yn egluro hynny. Wedi'r cyfan, beth a all esbonio'r anghysondeb bod Aneurin Bevan, D. R. Grenfell a Will John yma, fel y dylent fod, ond nid Ness Edwards (a fu farw ym 1968)? Pam y mae undebwyr fel Huw T. Edwards a Ron Mathias yma, ond nid yr ymladdwr mwyaf dros eu hiawnderau a gafodd Glowyr De Cymru yn y ganrif hon, sef Arthur Horner (1968)? O blith y pleidiau eraill, mae Syr Rhys Hopkin Morris yma, ond nid Clement Davies (1962); a D. J. Williams ond nid J. E. Jones na Threfor Morgan (1970 y ddau). Yr un mor ogleisiol yw'r dewis o fyd addysg. Mae'r Prifathro J. F. Rees o Gaerdydd yma, ond nid cyn-Prifathro Aberystwyth, Ifor L. Evans (1952), na chyn-Brifathro Bangor, Syr Emrys Evans (1966). Mae cyn-Athro Hanes Cymru, Bangor, Glyn Roberts, yma, ond nid T. Jones Pierce (1964) o Aberystwyth. I gynnal baner Coleg Harlech, mae'n dda gweld Ieuan Jeffreys-Jones i mewn, ond sut ar y ddaear oedd modd gadael allan Thomas Jones (T.J.), Rhymni, Nymbar Ten a'r bydysawd (1955)? Ac i ni aros ym myd addysg, chwithig hefyd sylwi nad yw Edgar Jones (1953) na'r Dr. B. Haydn Williams (1965) wedi haeddu gofod. Os yw gweinidogion yr efengyl yma rif y gwlith, nid felly arweinyddion yr eglwys esgobol, er y buaswn yn tybio bod yr Archesgobion Edwin Morris (1971) a Glyn Simon (1972) wedi naddu eu henwau yn ddigon dwfn ar gof y genedl i'w cynnwys. Y mae'r beirdd yma, yn brifeirdd ac yn feirdd gwlad, ond nid Meuryn (1967); nid yw llenorion fel E. T. Griffiths (1967) a T. I. Ellis (1970) yma chwaith. Ni chyrhaeddodd yr un dramodydd y llwyfan, na J. O. Francis (1956) na D. T. Davies (1961) na'r ddau Williams, Mathew a Leyshon (1970). Rhyfeddach yw'r gynrychiolaeth o blith llenorion Eingl-Gymreig: rhaid i Jack Jones achub cam Dylan Thomas (1953), Idris Davies (1963) a Vernon Watkins (1967).