Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O droi i'r celfyddydau eraill, mae rhyw gymaint o fyddardod (yn achos cerddoriaeth) a dallineb (i arluniaeth) yn y dewis. Ym myd cerdd, mae'n ymddangos i mi yn hollol ecsentrig fod Ivor Novello yma ar draul gwyr y gân fel John Morgan Lloyd (1960), Ivor E. Sims (1961), W. Matthews Williams (1971), Tudor Davies (1953), Parry Jones (1963) ac, yn syfrdanol, David Lloyd (1969). Fe welodd y cyfnod dan sylw hefyd farw arlunwyr fel Syr Goscombe John (1952), Margaret Lindsay Williams (1960), Augustus John (1961), Brenda Chamberlain (1971) a Ceri Richards (1972), heb anghofio'r pensaer nodedig Syr Percy Thomas (1969), ond ni wyddech hynny o'r gyfrol hon. Gallwn nodi wrth fynd heibio y byddid wrth ychwanegu'r ddwy artistwraig uchod wedi dyblu nifer y merched sydd ymhlith y 119 o enwau. Ni hoffwn fentro i feysydd fel diwydiant, gwyddoniaeth, y gyfraith a newyddiaduriaeth. Ond disgwyliais weld Walter Idris Jones (1971) yma ar sail ei gyfraniad i sawl agwedd ar fywyd Cymru; a'r meddyg brenhinol, yr Arglwydd Evans (1963); a'r marchogion dyngarol, elusengar Geoffrey Crawshay (1954) a David James, Pantyfedwen (1967). Ond y mae un maes y buaswn yn ddigon beiddgar i'w droedio, hyd yn oed o fewn cloriau'r Traethodydd. Nid trosiad ffigurol mo'r maes hwn, ac y mae pob un o'i arwyr yn dolc pellach yn nhalcen honiad y rhagarweiniad i Gymry Adnabyddus 1952-1972, "y ceir cynrychiolwyr o bob agwedd o fywyd Cymru" ynddo. Oherwydd nid oedd neb yn fwy adnabyddus i werin edmygus Cymru, na bri neb yn uwch, na phencampwyr y maes chwarae a'r cylch sgwâr. Gellir dadlau nad oedd diddordebau Jimmy Wilde (1969) = y gorau yn y byd, wedi'r cyfan na Billy Meredith (1958), Fred Keenor (1972), W. J. Bancroft (1959), a Rhys T. Gabe (1967) yn ddiwylliedig nac yn barchus. Ond fe wyddai eu miloedd o gefnogwyr fod gwylio'r dynion hyn yn mynd trwy eu pethau, yn ymarfer eu doniau amheuthun, yn dyrchafu chwarae'n gelfyddyd, yn brofiad ac yn anrhydedd. Fel eilunod diwylliant poblogaidd y Gymru fodern diweddar, dyma Gymry gwir adnabyddus. Coleg y Brifysgol. GARETH WILLIAMS HYWEL D. LEWIS, Persons and Life After Death (Macmillan: 1978). Pris £ 6.95. Dyma lyfr arall o ddwylo prysur yr Athro Hywel D. Lewis sydd bellach wedi ymddeol ar ôl diwrnod da o waith. Ar wahân i fod yn athro athroniaeth ym Mangor ac ym Mhrifysgol Llundain ymwelodd fel athro a darlithydd arbennig ag amryw o Brifysgolion America; bu yr un mor brysur yn darlithio yn y dwyrain India, Japan, Sri Lanka ac Iran; cafodd yr anrhydedd o roi y Wilde Lectures yn Rhydychen a'r Gifford Lectures yng Nghaeredin; bu'n llywydd prif sefydliadau athronyddol y wlad Mind Association, yr Aristotelian Society, ac yn gadeirydd y Royal Institute of Philosophy. Tra oedd yn gwneud hyn oll ysgrifennodd lyfrau sylweddol megis Our Experience ofGod, The Elusive Mind, The Selfand Immortality, heb sôn am lyfrau Cymraeg fel Dilyn Crist a Diogelu Diwylliant. Ef hefyd a olygodd y drydedd a'r bedwaredd o gyfrolau Contemporary British Philosophy, ynghyd â'r Uyfrau Clarity is not Enough a Philosophy East and West; ac at wneud hyn olí bu'n golygu'r cyfnodolyn llwyddianus, Religious Studies. Dyma dystiolaeth ddigonol o ddycnwch, egni a dyfalbarhad rhyfeddol. Ar wahân i hyn dylid cofnodi'r hwb a'r gefnogaeth werthfawr a roddodd i'w fyfyrwyr, fel y gall yr adolygydd presennol dystio yn dra diolchgar. Yn awr ynteu i ddod at y gyfrol ddiweddaraf hon, casgliad ydyw mewn gwirionedd o bapurau a darllenwyd mewn amrywiol gynadleddau, ynghyd â chyfraniad yr athro ac eraill i drafodaethau athronyddol gan gynnwys un drafodaeth a ddarlledwyd ar y teledu. Yn y ddwy bennod gyntaf cawn ddatganiad o safbwynt gyffredinol yr awdur, ac yna y mae n cynhesu at bwnc canolog y gyfrol mewn pennod sydd yn trafod tystiolaeth paranormal o fywyd ar ôl marw Yn y bedwaredd, y bumed a'r chweched bennod y ceir y sylwedd trymaf, a dyma'r penodau sydd yn cynnwys cyfraniad eraill yr Athro Bernard Williams, yr Athro Antony Flew, a'r Athro Sidney Shoemaker ynghyd ag atebion yr Athro Lewis i'w dadleuon. Yna ceir pennod ar gredu mewn bywyd ar ôl marw sydd i raddau yn gadarnhad o bwyntiau a wnaed eisoes yng nghorff y llyfr Yn y bennod olaf y mae'r awdur yn diosg ei fantell athronyddol ac yn cyflwyno i ni ddarlun o berson Crist. Yn y bennod hon y mae dawn yr awdur i fynegi ei neges mewn iaith goeth, sydd yn darllen yn rhugl, ar ei gorau.