Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Fel llong yn dal i dindroi, a'i chriw'n ddihidans o feddw, Mae'r Genedl ar drugaredd y gwynt, heb gapten, fel llester gweddw. Y Gair, wedi'r wast ar ei ystyr, ynghlo rhwng claspiau rhydlyd, A'r geiriau'n elfennol fratiog ar lafar gwefusau pydlyd. Ym melinau'r De a'r Gogledd mae'r dur erbyn hyn yn oeri. Mae'r gweithwyr a'r perchnogion, fu yn nannedd ei gilydd yn poeri, Bellach i gyd wedi blino; yn cyndyn sychu eu gweflau Ac yn gweld fod i'r drefn gyfalafol ei haflwydd a'i meflau. Tyfodd dynion yn llai na dynion wrth ymuno â'r hir gynffonnau; Disgwyl, a derbyn y dôl, i gynnal gwragedd â'u bronnau Heb wybod am sugn baban, dan gynnar laddfa'r erthylu Lle mae golau gwan ein dyfodol ar fyrddau clinigau'n pylu. Ninnau, pa fodd y canwn wrth nesáu at ddiweddgan Orwell? Di-olau yw'r llwybrau lleng a'r fagddu'n enhuddo'r gorwel Ond pan fo'r fflamau'n plisgo talcennau calch y bythynnod A phan droir yn gregin carreg furiau yr hen dyddynnod. Edrych arnom, O! Arglwydd, edrych yn awr ac fe'n gweli Wedi hen ddibrisio'th adnodau, a drysau cau i'n capeli. Cadw ni rhag ein cael mewn cywilydd o'th flaen yn tragwyddol wylo Am ddatod cwlwm Rhaff yr Angor oedd mor saff yn ein dwylo. COLLI GAFAEL EIRIAN DAVIES