Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canu'r byd i'w le Y mae'r mwyafrif o haneswyr Saesneg yn gytûn fod rhyw undod a sefydlogrwydd yn perthyn i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrydain, sef y blynyddoedd c. 1850-70. Dyma'r cyfnod a ddisgrifiwyd Mplateau gan Asa Briggs a gyfeiriodd at bum dylanwad a fu'n foddion i greu unrhywiaeth meddwl yn ystod y blynyddoedd hyn.' Dyma'r adeg a welodd aeddfedu o'r meddylfryd a elwir yn 'Victorianaeth' a disgrifiad hanesydd nodedig arall o'r chwarter canrif 1850-75 oedd 'the High Noon of Victorianism'.2 I W. L. Burn 'The Age of Equipoise' oedd y cyfnod 1852-67 yn Lloegr.3 Yn ôl Geoffrey Best, ni ellir gwadu nad oedd y blynyddoedd canol hyn yn adeg o dawelwch cymharol a chynnydd economaidd diamheuol: 'The hungry forties and the radical thirties suddenly seemed remote. The mid-Victorian calm was announced and enthusiastically acclaímed.' 4 Felly hefyd haneswyr Cymru. Dywed yr Athro Ieuan Gwynedd Jones fod Cymry'r ugain mlynedd 1850-70 yn ymwybod ag arbenigrwydd eu hoes a phwysleisia eto eu bod yn flynyddoedd o gynnydd a diwygiad cymdeithasol: Wales (appeared) to be settling into its proud image of 'gwlad y menyg gwynion', respectable, religious, petty bourgeois in style and aspiration. s Mewn astudiaeth arall, dadleua'r un hanesydd fod y dosbarth canol y siopwyr a'r masnachwyr a'r gwyr proffesiynol wedi hen ymsefydlu ym Merthyr Tudful, Klondike Cymru yn hanner cyntaf y ganrif, erbyn y pumdegau a bod yr unrhywiaeth barn a meddwl a gysylltir ag Oes Victoria eisoes wedi datblygu yn eu plith: a certain class consciousness, a basic harmony of views and objectives, an agreed image of 'respectability', a social coherence based on a feeling of difference as compared with the topmost layer and with the amorphous, turbulent bottom layers of society. Os oedd rhan fawr o'r gymdeithas Gymraeg yn sadio ac yn ymbarchuso, teg fyddai disgwyl i'r llenyddiaeth boblogaidd adlewyrchu'r newid hwnnw. Gellir gweld y newid yma gliriaf, efallai, yn hanes y baledwr ffair. Mor gynnar â 1882 ceir 'Z M'cQ', llythyrwr yn Baner ac Amserau Cymru, yn apelio am gasgliad o 'hen faledi Cymreig poblogaidd yr oes o'r blaen'. Y mae'r ymadrodd 'yr oes o'r blaen' yn tanlinellu'r ymwybod effro â'r cyfnewidiad economaidd a chymdeithasol. 'Erbyn hyn,' meddai 'Z M'cQ', 'y mae y ffurf hon ar lenyddiaeth wedi llwyr ddiflannu o'r tir mae brawdoliaeth y baledwyr oll wedi darfod, wedi cael eu gwthio o'r tir gan y lliaws newyddiaduron a'r Chwi feibion a merched y gân, Cysegrwch bob cyngerdd a chwrdd, I godi cyfiawnder i'r lan, A gyrru pob trawster i ffwrdd; Swynwch bob ardal a thre'. A thonau soniarus a phêr, Caniadau fel miwsig y sêr,— Canwch y byd i'w le. R j J. Derfel