Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pregethu FY NYLETSWYDD gyntaf yw diolch i ymddiriedolwyr 'Darlith Goffa'r Dr. John Williams' am y fraint o gael traddodi'r ddarlith hon.* Nid wyf yn tybied y bydd neb ohonoch yn well pregethwr wedi gwrando arnaf; gobeithio, serch hynny, y bydd pob un ohonom yn dymuno gwneud y gwaith yn well. Ailennyn y pregethwr sydd ynom yw bwriad y darlithiau hyn, gredaf fi. Prin y dywedaf ddim ar 'bregethu' nad ydych eisoes yn ei wybod. Fy amcan syml yw rhannu â chwi rai o'r gwirioneddau a argraffwyd arnaf yn ystod blynyddoedd fy nghynnig tlawd i gyflawni'r gorchwyl. 'Mi rown fydoedd maith pe'u meddwn' am gael pregethu fel y dylid pregethu. 'A yw pregethu'n anodd?' gofynnodd rhywun; a'r ateb a gafodd, 'Ddyn, y mae pregethu nid yn unig yn anodd, ond yn amhosibl'. Gwaith yw hwn sy'n gosod y cwbl sydd gan ddyn dan dreth. Erbyn hyn ehangwyd tipyn ar ystyr y gair 'pregethu'; y mae iddo amryw weddau, a'r rheini'n bwysig. Ond yng nghyd-destun y ddarlith hon, ac yn arbennig o gofio'r gwr y'i sefydlwyd i'w goffáu, cyfyngaf fy sylwadau i 'bregethu' yn yr ystyr arferol, draddodiadol. 1. Ein tasg gyntaf yw dadlau achos pregethu. Tan gwmwl y mae pregethu heddiw, a diorseddwyd y pregethwr: mae hynny'n amlwg ddigon yn y gymdeithas seciwlar gyfoes. Y diweddar Barchedig Alban Davies, Bethesda (A), Ton Pentre, Y Rhondda gweinidog galluog, ffyddlon a chywir, a roes ei gwbl i Gwm Rhondda a glywais yn dweud mewn cynhadledd ddiwinyddol yn Aberystwyth ychydig cyn ei farw nad oedd ef, fel pregethwr, yn cyfrif dim bellach ym mywyd Cwm Rhondda. Syrthiodd coron y pregethwr. Eithr nid yn y gymdeithas seciwlar yn unig y digwyddodd hyn. Ail Ie, ysywaeth, sydd i bregethu yn ein heglwysi, lawer ohonynt ac yr wyf yn meddwl yn awr am yr eglwysi ymneilltuol lle y bu'r bregeth un adeg yn fawr ei bri. Er enghraifft, adlewyrchir ein syniad am bregethu ym mhensaernïaeth capeli newydd: symudwyd y pulpud o'r canol i'r ochr, yn gwbl groes i ethos ymneilltuaeth. Yna gwelir pregethwyr eu hunain yn amI yn dibrisio'r bregeth; y mae'r esgus lleiaf yn ddigon i ni beidio â phregethu. Nid parch i'r Cymun sy'n cyfrif na cheir yn aml bregeth o flaen y sacrament. Dyna'r union fan a'r lle y mae cyfarwyddiadau Llyfr Gweddi yr Eglwys Esgobol yn gorchymyn pregethu, a dihunodd y Pabyddion hwythau i bwysigrwydd y bregeth yn yr offeren. Ond am yr eglwysi ymneilltuol, prysur ollwng eu gafael ar y bregeth y maent hwy yn ei wneud. Oblegid y cwbl hyn dywedaf eto mai'n tasg gyntaf yn y ddarlith hon yw dadlau achos pregethu. Y mae gwir angen i ni ailsefydlu'r bregeth. Y mae gair P. T. Forsyth mor dreiddgar heddiw â phan ysgrifennwyd ef gyntaf yn 1907: 'With its preaching Christianity stands or falls'. Nid llai o bregethu sydd ei eisiau, ond Darlith Goffa'r Dr. John Williams. Traddodwyd hi i Undeb Athrofa'r Bala yn Llandudno, Mai 1974, ac yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth.