Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes Y Traethodydd Braslun Dros Dro1 ER MAI ag enw Lewis Edwards y cysylltir hanes cychwyn Y Traethodydd yn gyffredin, rhaid cofio fod peth o'r clod yn perthyn i Thomas Gee. Yn wir, mae lle i gredu fod Thomas Gee'n meddwl mai ef oedd gwir gychwynnydd y cylchgrawn. 'Dywedwyd wrthym,' meddai T. M. Jones, 'yn bendant gan Mr. T. Gee, y cyhoeddwr, mai efe ei hunan a awgrymodd y peth gyntaf i sylw Dr. Edwards mai efe (Mr. Gee), mewn gwirionedd, a feddyliodd gyntaf am gylchgrawn o'r fath'.2 Ond er bod rhan bwysig gan Thomas Gee yn hanes y cychwyn, prin y gellir hawlio cymaint iddo ag a fynnai ef wrth siarad â T. M. Jones. Cawn Lewis Edwards yn ysgrifennu at Roger Edwards, 21 Mawrth, 1844, ac yn ei hysbysu: Last week Mr. Gee was here, and I took the opportunity of speaking to him about publishing a Welsh Quarterly Review. To my great joy I found that he had thought of it himself, and I believe he said tht he had been talking to you about it. I am glad to tell you that it is finally settled. Sylwer ar y frawddeg 'I believe he said that he had been talking to you about it'. Cyfeiria Roger Edwards at hyn yn ei ateb i Lewis Edwards, 26 Mawrth, 1844, ac yn ôl y llythyr hwnnw, Roger Edwards a soniodd wrth Thomas Gee am gyhoeddi cylchgrawn. Mr. Gee has been talking to me of his wish to publish a series of useful works in Welsh, and I mentioned to him the desirableness of a Quarterly Publication, and its being long talked of by the Literati of the Corff4 Credaf ei bod yn deg i ni gasglu mai ei sgwrs â Roger Edwards oedd un o'r rhesymau paham yr aeth Thomas Gee i weld Lewis Edwards yn Y Bala, ac er y gallai honni mai ei gynnig ef i ymgymryd â'r cyhoeddi a wnaeth y cylchgrawn yn bosibl,5 anodd fyddai iddo brofi ei fod wedi meddwl am y cylchgrawn o flaen Lewis Edwards, oblegid y mae gennym lythyrau i ddangos fod y Prifathro wedi bod yn meddwl o ddifrif am y cylchgrawn yn 1842,6 ac nid oes rheswm dros ei anghredu pan ddywedodd wrth Richard Owen ei fod wedi meddwl amdano ymhell cyn hynny. Cyn i mi ymsefydlu yn y Bala, yr oeddwn yn teimlo awydd cryf am weled cyhoeddiad trimisol yn cael ei gychwyn yn Nghymru, ac wedi gwneuthur pob ymdrech i gaelgan Mr. Roger Edwards ymaflyd yn y gorchwyl fel golygydd. 7 Nid oedd yr amheuaeth leiaf ym meddwl Roger Edwards mai syniad y Prifathro oedd cyhoeddi'r cylchgrawn, 'Gyda'r Dr. Edwards y gwreiddiodd y cynhyrfiol achos o hono, ys dywed yr hen dduwinyddion,'8 a chofiai'n dda am gyfarfod ag ef yn y Bala yn ystod Haf, 1844, i gydymgynghori a phenderfynu cyhoeddi'r Traethodydd, 'y rhifyn cyntaf i ddyfod allan yn nechreu 1845'. Yn y cyswllt hwn y mae'n werth pwysleisio nad fel cychwyn ymgyrch i godi safon diwylliant Cymru yr edrychai Lewis Edwards ar sefydlu'r Traethodydd,