Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau DAVID PROTHEROE DAVIES, Arweiniad i'r Testament Newydd. Cyfrol 1: Yr Efengylau a'r Actau. CyfresyBeibla Chrefydd: 2 (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1978), tt. 190. Pris £ 4.75. DYMA'R ail gyfrol i ymddangos yn y gyfres o lawlyfrau a ddechreuwyd gyda Gramadeg Hebraeg y BeiblG. H. Jones a D. R. Ap-Thomas yn 1976. Clawr meddal cryf sydd i'r gyfrol, a rhaid dweud bod y pris hytrach yn uchel am lyfr o'r math, yn enwedig o gofio mai ar gyfer efrydwyr mewn coleg ac ysgol y bwriedir ef yn bennaf ac y gellir disgwyl iddo fod yn werslyfr safonol yn y maes hwn am nifer o flynyddoedd (cymharer prisiau'r cyfrolau Efrydiau Beiblaidd Bangor a fwriadwyd ar gyfer yr un dosbarth o ddarllenwyr ac a rwymwyd mewn clawr caled, cadarn). Y mae'n gyfrol hylaw, fodd bynnag, a'r argraffwaith-ar wahân i ddryswch yn nhrefn y llinellau ar waelod t. 144 ac ambell lithriad fel 'cwesitwn' (t. 160)- yn lân a hawdd ei ddarllen. Gan gymaint y cynnyrch llenyddol cyson ar faterion sy'n ymwneud â llyfrau'r Beibl a chan amled y mae damcaniaethau newydd yn cael eu cyflwyno i'r drafodaeth, cymharol fyr yw oes unrhyw Arweiniad i'r Testament Newydd yn y byd sydd ohoni. Nid oes ond pymtheng mlynedd er pan gawsom Arweiniad Byr Isaac Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru, 1963), a bu hwnnw eisoes allan o brint ers rhai blynyddoedd. Yr oedd llyfr Dr. Thomas yn batrwm o lawlyfr o'i fath, ac er bod angen ei ddiweddaru yng ngoleuni datblygiadau'r pymtheng mlynedd diwethaf fe ddeil yn werthfawr iawn o hyd. Nid drwg o beth, fodd bynnag, yw cael mwy nag un llawlyfr i drafod y maes yn Gymraeg, a gellir croesawu'r trefniant i gynnwys yng Nghyfres Beibl a Chrefydd G.P.C. ddwy gyfrol arweiniol i'r Testament Newydd (dylid rhybuddio darllenwyr, ar yr un pryd, na fydd y cyfrolau newydd yn trafod y materion a gynhwyswyd yn Adran A ac Atodiad A llyfr I.T.). Y pedair Efengyl a'r Actau yw'r rhan o'r maes a ymddiriedwyd, yn y gyntaf o'r ddwy gyfrol arfaethedig, i ddwylo profiadol y Parchedig David Protheroe Davies, sydd fel y gwyr y cyfarwydd yn Uwch-ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth, gan arbenigo yn astudiaethau'r Testament Newydd, yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yn ei ragair cyfeddyf yr awdur na chafodd 'yr un gair o'm haddysg ffurfiol trwy gyfrwng iaith fy nhadau', ac iddo 'gyrraedd y Brifysgol yn hyddysg yn ieithoedd yr hen fyd' ond 'yn gwbl anllythrennog yn iaith fy nghenedl fy hun'. Yn wyneb hyn y mae D.P.D. yn haeddu ei longyfarch yn galonnog iawn ar y gamp eithriadol a gyflawnodd trwy ysgrifennu cyfrol sy'n dangos y fath feistrolaeth ar y Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu ac addysgu. Llwyddodd i gyflwyno ffrwyth ei ddarllen eang ar waith ysgolheigion a gyhoeddwyd yn Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg, ac ambell iaith arall yma ac acw, mewn Cymraeg naturiol, ystwyth a dealladwy, ac i fynegi yn yr un modd ei farn aeddfed a chytbwys ei hun ar y materion sydd dan sylw. Efallai mai dyma'r lle priodol i'r adolygydd leisio'r un gwyn sydd ganddo yn erbyn cyfrol sydd at ei gilydd wedi ennill ei edmygedd a'i gymeradwyaeth frwd. Ar ddiwedd pob pennod rhoddir llyfryddiaeth fer mewn dwy ran, y naill ran yn rhestru gweithiau Saesneg a'r llall yn rhestru trafodaethau mewn Cymraeg. Y mae'r rhestrau Saesneg yn cynnwys detholiadau teg a defnyddiol o'r doreth llenyddiaeth sydd ar gael yn yr iaith honno. Y mae'r rhestrau Cymraeg, ar y llaw arall, yn llai boddhaol; gellid disgwyl iddynt gynnwys popeth o werth a gyhoeddwyd yn Gymraeg yn ystod yr hanner canrif diwethaf yn y meysydd perthnasol, ond nid ydynt yn gwneud felly. Cyfeirir yn gyson a hynny'n gwbl briodol at erthyglau yn y Geiriadur Beiblaidd a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol drwchus dan olygyddiaeth Thomas Rees (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926) ac at lyfrau arweiniad J. Gwili Jenkins (Bangor, 1928) a J. Morgan Jones (G.P.C., Caerdydd 1930). Yr oedd y gweithiau hyn yn werthfawr iawn yn eu dydd ond y maent bellach, o angenrheidrwydd, wedi eu dyddio. Rhestrir hefyd rai trafodaethau mwy diweddar, yn llyfrau ac ysgrifau, ond anwybyddir nifer o rai eraill. Yr enghraifft fwyaftrawiadol (i adolygydd o Fangor, o leiaf!) yw Efrydiau Beiblaidd Bangor I, gol. D. R. Ap-Thomas (Gwasg John Penry, Abertawe, 1973); cynhwysir y gyfrol hon yn y Llyfryddiaeth Gyffredinol ar ddechrau llyfr D.P.D., ond ni chyfeirir yn unman at y ddwy bennod o'i chynnwys sy'n trafod rhai o'r pynciau dan sylw, ac ni chynhwysir teitlau'r ddwy bennod honno yn y llyfryddiaethau i'r penodau perthnasol. Nid yw'r llyfryddiaethau chwaith yn cydnabod bodolaeth y