Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARISTOTELES, Barddoneg, Cyfieithiadgyda Rhagymadrodd a Nodiadau gan J. Gwyn Griffiths. x 156 tt. (Caerdydd 1978) £ 5.95. O'R DIWEDD dyma'r Farddoneg yn Gymraeg, mewn llyfr cynhwysfawr a hwylus, gyda 67tt. o Ragymadrodd, 50 o gyfieithiad ynghyd â nodiadau byr, llyfryddiaeth a mynegai llawn. Mae'r gyfrol yn hardd ei gwisg a chlir ei hargraffwaith, a'r unig wall a nodais oedd ar tud. 83 lle mae'r llinell "Heracleid a Thebaid a gweithiau o'r fath. Tybiant" wedi crwydro o'i lle ar waelod y tudalen, lle'i ceir eto yn ei Ile cywir. Hwylustod hefyd yw cael ailargraffu o Draethodydd 1967 awgrymiadau Adran Glasurol Urdd y Graddedigion ar ffurfiau Cymraeg enwau priodol Groeg a Lladin. I'm tyb i, gresyn na fuasai'r Athro Griffiths wedi cadw atynt, fel na fyddai ffurfiau fel Achil'les affal'los ar ei dudalennau. Dim ond dyn dewr a geisiai drosi'r Farddoneg a llwyddo, fel y gwnaed yma, i wneud synnwyr heb beidio â bod yn llenyddol. Fel holl weithiau Aristoteles, y mae'r testun yn fylchog ac ansicr, ac y mae ei arddull yn debycach i nodiadau ar gyfer darlith nag i waith llenyddol. Er enghraifft, cyfieithiad air-am-air o'r dechreuad fyddai: "Am farddoniaeth ei hun a'i ffurfiau hi, pa rym sydd gan bob un a sut y dylid rhoi at ei gilydd y storïau, os bwriedir i'r farddoniaeth fod yn gywir, ac eto o faint a sut rannau y mae, ac ar yr un pryd am y pethau eraill sy'n perthyn i'r un ymchwiliad, bydded inni ddweud, gan ddechrau yn ôl natur yn gyntaf gyda'r pethau cyntaf." Try hyn yn nwylo'r Athro yn "Traethwn am farddoneg ei hun a'r mathau ohoni, gan ystyried pa nodwedd arbennig sydd i bob un; a pha fodd y dylid rhoi cynllun y stori ynghyd os yw'r barddoni i fod yn dda; chwiliwn i nifer a natur y rhannau a'r un modd i unrhyw faterion eraill a berthyn i'r ymchwil, gan ddechrau, yn ôl trefn natur, gyda'r egwyddorion cyntaf". Y mae'r un mor ddiddorol sylwi ar y gwahaniaethau rhwng y cyfieithiadau Saesneg (e.e. Butcher, Bywater), pob un yn ôl chwaeth yr awdur unigol. Un fantais amlwg sydd i'r cyfieithiad Cymraeg, yw ei fod yn defnyddio'r testun diweddaraf un gan Kassel yng nghyfres testunau clasurol Rhydychen, yr OCT. Mae y Rhagymadrodd yn trin yr hen broblemau cyfarwydd sy'n codi o dermau technegol Aristoteles: efelychiad (mimesis), y gwrthdro (peripeteiá), darganfyddiad (anagnorisis), dioddef (pathos), ac yn arbennig y termau allweddol hamartia a catharsis. Ai gwall neu ddiffyg neu bechod yw hamartia? Ai bwrw allan drwy garthu neu buro drwy garthu yw catharsisl Mae'r ymdriniaeth yn deg a chytbwys gan osgoi gorbendantrwydd. Tybed a oedd Aristoteles ei hun mor bendant ar ystyr fanwl ei eirfa? Athronydd oedd ef â meddwl fel card index yn tynnu ei gasgliadau ar ôl pentyrru ffeithiau, yn aml gyda chymorth ei ddisgyblion. Yng nghyflwr presennol y testun nid yw'n hawdd penderfynu ei wir ystyr. A yw'r adran a wrthodir gan Kassel ac a gyfieithir yn nodyn 16 (tud. 124) yn ddilys? "Mewn digwydd gwelir dedwyddwch a thrueni dynion; rhyw fath o ddigwydd yw eu nod, nid math o gyflwr. Bydd nodweddion dynion yn dilyn eu cymeriadau, ond y digwyddiadau a weithredir ganddynt sy'n gwneud dynion yn ddedwydd neu fel arall". Os yw'n ddilyn, ni all y cyfaddefiad o'r posibilrwydd y gall Trasiedi ymwneud â dedwyddwch beidio ag effeithio ar athrawiaeth puredigaeth neu garthu. Ac fel mater o ffaith mae llawer o'r Trasiediau a'u diwedd yn ddedwydd. Mae'r Rhagymadrodd yn pwysleisio dylanwad y Farddoneg ar feirniadaeth o'r Oesoedd Canol ymlaen. Ond yn yr adran ar arddull rhaid cofio fod syniadau Aristoteles yn amrwd ac mai cynnyrch cyfnod diweddarach yw'r dadansoddi iaith sy'n creu gramadeg. Pergamus ac Alecsandria oedd magwrfeydd yr wyddor fel y cyfryw ar wahân i resymeg. A hyd yn oed mewn beirniadaeth lenyddol, prin fu dylanwad ysgol Aristoteles yng Ngroeg, ar ôl Theophrastos. Wrth gwrs, mae perthynas agos rhwng y gwaith hwn ag athroniaeth gyffredinol Aristoteles, fel yr awgrymir ar d. 19 pan ddywedir mai cyfuniad o ffurf a mater yw popeth. Dyma ystyr, ond odid, y frawddeg yn y cyfieithiad (tud. 77; 1449a 15) "Datblygodd Trasiedi'n raddol ac ar ôl profi llawer cyfnewidiad, peidiodd â thyfu pan gyrhaeddodd ei ffurf naturiol (physis)". Ar wahân i ystyr y termau, erys mwy o ddirgelwch beth oedd pwrpas y gwaith. Mae rhai awgrymiadau gan y cyfieithydd ar tt. 2-3, sef bod hyn yn rhan o'r wybodaeth hollgofleidiol yr amcanai'r Groegwyr ati. Gellir ychwanegu nad oedd ffiniau pendant rhwng gwyddor a gwyddor wedi eu penderfynu eto a bod barddoneg yn ymwthio, e.e., i'r Politica o safbwynt gwahanol. Efallai hyd yn oed mai cyfrol ydyw'r Farddoneg ar gyfer rhoi hyfforddiant ac awgrymiadau i rai'n bwriadu sgrifennu trasiedi. Byddai pwrpas ymarferol o'r fath yn hollol gydnaws ag anian Aristoteles. Mewngwirionedd dirgelwch olyfr ydyw, y bu ei ddylanwad ar y canrifoedd yn anesboniadwy-