Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac yn arbennig o'i gamddehongli a gwneud awdurdod ohono. Ar yr wyneb dadansoddiad o elfennau trasiedi a rhyw ddamcanu am ei phwrpas ymarferol. Ond yn sicr, nid traethawd ar athroniaeth barddoniaeth, hyd yn oed, y cilcyn cyfyngedig y mae'n dewis ymdrin ag ef, nac ychwaith ddyfaliadau am aestheteg geiriol, dim ond gosodiadau moel am rai o'r hanfodion. Mae'n ysgrifennu'n hwyr yn hanes y genre, fel na fedrir sicrhau bod ei osodiadau'n gywir am drasiedi yn ei hanterth gan mlynedd ynghynt. Ond y mae'n amlwg fod ei lygaid ar y gynulleidfa, y dyn bach yn y seddau a ddarlunnir yng nghomedïau Aristophanes, a ddisgwyliai weld ar y llwyfan ddigwyddiadau dramatig gyda gwrthdro a darganfyddiad a thrychineb ar y diwedd, fel yn Oidipws Frenin gan Sophocles, hoff ddrama Aistoteles, gellir tybio. Efallai'n wir pe bai'n byw heddiw, gan farnu yn ôl yr un safonau, y dywedai mai ei hoff lenyddiaeth fyddai stori dditectif gelfyddydol! Yr oedd yn hen bryd i'r Farddoneg gael ei hychwanegu at y nifer cynyddol o gyfieithiadau o'r prif glasuron sydd bellach ar gael yn Gymraeg. Yr ydym yn ffodus iawn o gael un sydd mor ddarllenadwy, yn cyfleu ei ystyr yn gywir, a'r Rhagymadrodd a'r nodiadau yn taflu goleuni ar y prif broblemau a gyfyd o'r gwaith. Diolch i'r Athro Gwyn Griffiths am ei gymwynas. J. HENRY JONES MARI D. EVANS, Ar Ei Adenydd Iacháu. "LLYFR ar Iachau Dwyfol- Iacháu yn enw'r Iesu yw'r llyfr hwn", medd yr awdur. "Duw yn ei Gariad mawr", meddai, "yn ymateb i gariad yng nghalon dyn ato Ef ac at Grist yw Iachâd dwyfol." (Ond, onid i ffydd dyn, nid i gariad dyn, y bydd Duw'n ymateb?) Iechyd corfforol sy'n cael y sylw mwyaf yma; ond teg yw ychwanegu y pwysleisir hefyd y cysylltiad hanfodol sydd rhwng y corff a'r ysbryd, a bod gweithio ar gyfer dyfodiad y Deyrnas yn golygu iacháu'r "dyn cyfan". Rhoddir cryn sylw yng nghorff y llyfr i enghreifftiau o'r iacháu dwyfol a gofnodir yn y Beibl yn ogystal ag yn yr Eglwys ar hyd y canrifoedd hyd heddiw. Adroddir wedyn yr hyn sydd gan wahanol feddygon a gweinidogion i'w ddweud am iacháu trwy ffydd. Ac yn y rhan olaf o'r gwaith ychwanegir nifer o adnodau ysgrythurol a fydd yn gymorth gwerthfawr i'r neb sy'n ceisio goleuni ar faterion megis ffydd, gweddi a phrofedigaeth. Nid diddordeb 'academig' yn unig, mae'n amlwg, a symudodd yr awdur i ymgymryd â'r gwaith hwn. Yn hytrach, ffrwyth argyhoeddiad a chonsyrn sy'n tarddu o'r galon a deimlir trwyddo. Y mae'r dull o gyflwyno'r neges yn awgrymu brwdfrydedd cenhades ar y maes neu wrth wely'r ysbyty, yn hytrach na phregethwr yn y pulpud. Ac y mae'r enghreifftiau rhyfedd, ar wahân i ddim arall, a roddir am yr iacháu dwyfol sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru, yn sicr o ennyn diddordeb nid bychan llu o ddarllenwyr. Bydd adrodd "mawrion weithredoedd Duw" yn siwr o beri i lawer ail-feddwl eu safbwynt ynglyn â nerth gweddi, a dweud, fel trigolion Capernaum gynt (yng ngeiriau Marc): "Ni welsom ni erioed fel hyn". Nid oes gwadu ar y ffaith fod yna nifer o bethau gwerthfawr yn y gwaith hwn, a bod pwyslais amlwg ynddo ar lawer o wirioneddau sylfaenol. Ond y mae ffordd gwirionedd ar brydiau yn rhedeg rhwng tiriogaeth sgeptigaeth, ar y naill law, ac ofergoeliaeth, ar y llaw arall. Bydd cyndynrwydd a llacrwydd ill dau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ddenu'r pererin oddi ar y Ffordd Dragwyddol. Ni ddylid meddwl, er enghraifft, fod amau ambell stori am y modd y cafodd hwn a hwn ei iacháu trwy ffydd yn gyfystyr ag amau gallu Duw i iacháu unrhyw un o unrhyw afiechyd fel y mynno. Dyna pam y mae dyn yn synnu braidd wrth ddarllen mai "salwch sy'n ildio'n dda i rym gweddi yw'r cryd cymalau" (tud. 49). Rhaid gwylio hefyd rhag cymryd yn ganiataol mai ewyllys Duw yw iacháu'r corff 11e bynnag y ceir digon o ffydd a gweddi. Pan gyfeiria'r awdur at yr apostol Paul yn gweddïo dair gwaith ar i Dduw symud ei 'swmbwl yn y cnawd', ychwanegir "bod angen gofyn mwy na thair gwaith yn ami am iachâd i gleifion" (tud. xviii). Ond tystiolaeth yr Apostol ei hun yw iddo gael ateb i'w weddi a oedd yn anhraethol fwy gogoneddus na'r hyn a weddfodd amdano. "Digon i ti fy ngras i" oedd yr ateb (2 Corinthiaid 12: 9). Ac nid ail-orau oedd y gras hwnnw, ond grym aruthrol a'i galluogodd i ymgryfhau yn ei wendid i'w oresgyn yn hytrach na'i osgoi. Dylid gochel hefyd y demtasiwn o wahanu profiad ac athrawiaeth oddi wrth ei gilydd. "Nid trwy fyfyrio ar athrawiaethau", medd yr awdur, "y deuir i ddeall natur Duw, ond trwy fyfyrio'n ddwys