Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar ddigwyddiad — trwy fyfyrio ar farw Crist ar y Groes" (tud. 8). Ond onid hanfod o athrawiaeth y mae'r gair 'Crist' ei hun? (Gweler Ioan 20: 21 "Y pethau hyn a ysgrifennwyd fel y credoch chwi maiyr Iesu yw Crist, Mab Duw; a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.") Ni fyddai myfyrdod ar Groes Iesu, heb ddatguddiad o'r athrawiaeth mai'r Crist oedd y croeshoeliedig, erioed wedi agor ein llygaid i arwyddocâd y marw. Ar graig duwdod Crist y gorffwys ei nerth achubol (Math. 16: 13-21). Oherwydd hynny hefyd ofer fyddai gwahanu grym atgyfodiad Crist oddi wrth y cymod a wnaethpwyd rhwng Duw a dyn trwy y Groes. Nid wyf yn dweud nad yw'r awdur yn credu'r pethau hyn; ond hawdd cymylu yn ddiarwybod bwysigrwydd unigryw iachâd yr enaid yr iechyd sydd i bara byth pan fydd y marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb (1 Cor. 15: 53). RHEINALLT NANTLAIS WILLIAMS CERI DAVIES, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632 (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1980, tt. 196). Pris £ 6.95. YN ei gyflwyniad i'w drosiad i'r Gymraeg o destun Lladin Credo Athanasius Sant, a wnaed rywbryd yn ystod ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, fe ddyry'r cyfieithydd, y Brawd Gruffudd Bola, syniad inni am yr hyn yr anelai ato wrth gyfieithu. Mae'n cyfarch Efa ferch Maredudd, a oedd wedi datgan dymuniad am gael y Credo yn Gymraeg, 'yn iaith y gelli di ei ddarllen a'i dyall'. Dywed wrthi ymhellach, Un peth, fodd bynnag, y dylit ti ei wybod ar y dechrau, pan drosir un iaith i'r llall, megis Lladin i Gymraeg, na ellir yn wastad newid gair am un arall, a chyda hynny gynnal priod ddull yr iaith a synnwyr yr ymadrodd yn deg. Gan hynny, fe drois i weithiau air yn air arall, ac weithiau eraill fe ddodais synnwyr yn lIe y synnwyr yn ôl modd a phriod ddull ein hiaith ni. Go brin fod lle i feirniadu syniad Gruffudd Bola am yr hyn y dylid ei gyflawni mewn cyfieithiad. Ar dro fe ellir rhoi gair yn lle gair; bryd arall bydd raid cael 'synnwyr' yn Ue 'synnwyr'. O ran eu hanfod yr un yw'r canonau a welir gan yr ysgolhaig a fu yn y gyfrol hon yn trosi testunau Lladin mwy diweddar i iaith y gallwn ni ei darllen a'i deall. Gair i gychwyn am gynnwys y gyfrol. Yn y Rhagymadrodd (tdau. 1-17) ymdrinnir yn gyffredinol â nodweddion y gweithiau a drosir, a dangos fel yr adlewyrchir ynddynt dri diddordeb yn arbennig, sef diddordeb mewn crefydd, hanes Cymru a'r iaith Gymraeg. Lladin yw'r iaith ynddynt, a hynny am fod modd drwy gyfrwng yr iaith honno ddod i'r afael â chyhoedd helaethach. Felly hefyd ar adegau cynharach, pryd y gwelwn ddefnyddio Lladin yn helaeth gan Gymry, gan Gildas yn y chweched ganrif, gan 'Nennius' yn y nawfed, a chan Rigyfarch ac eraill yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg gwelwn ymddiddori o'r newydd yn y clasuron, yn hen ddiwylliant Groeg a Rhufain. Ond yng Nghymru yr adeg hon, megis ar adegau cynharach, cafwyd ysbrydiaeth yn ogystal o ymgydnabod o'r newydd â'r hen draddodiad cynhenid Cymraeg. Mae'n bwysig cydnabod hyn oll, a chofio fel y bu i wyr mawr y Dadeni yng Nghymru ymddiddori yn eu hen dreftadaeth ddiwylliannol eu hunain. Eto i gyd, mae'n amlwg i bawb fod dylanwad y Clasuron yn drwm ar arddull rhyddiaith Gymraeg y cyfnod hwn. Nid ar y Gymraeg yn unig, ond hefyd ar y Lladin a welir yn y gweithiau a gynrychiolir gan y cyfieithiadau hyn. Mae gwr fel Siôn Dafydd Rhys yn fedrus ar lunio brawddeg faith, amlgymalog, Giceronaidd, a dengys y cyfieithydd (td. 8) fel y bu raid defnyddio pedair brawddeg Gymraeg i drosi un frawddeg felly ganddo. Nid mewn iaith yn unig, ond hefyd mewn syniadau, meddyliau, delfrydau, ac yn yr olygwedd ar fywyd yn gyffredinol fe ellir nabod dylanwad y Dadeni ar y gwyr hyn. Fe'u ceir yn dra mynych yn dyfynnu'r awduron Clasurol, ac y mae'n amlwg eu bod hwy megis eraill yn gyfrannog o'r etifeddiaeth gyffredinol honno 11e rhoddid cymaint pwys ar awdurdod y Clasuron Groeg a Lladin, a hefyd ar y Beibl a Thadau cynnar yr Eglwys. Hefyd, fe welir ar y gweithiau hyn ôl dylanwad awduron Lladin mwy diweddar, awduron o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, megis yr athronydd o Ffrancwr, Jean Bodin (1530-96). Go brin fod angen pwysleisio pa mor ddwfn a thrwyadl yr ymgydnabu rhywun megis John Davies o Fallwyd â chynnyrch y dyneiddwyr. Iawn oedd i Mr. Ceri Davies bwysleisio dylanwad y dyneiddiwr Desiderius Erasmus (c. 1466-1536), ac yn arbennig ei waith yr Adagia (casgliad o ddiarhebion a