Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dywediadau), gwaith y mae ei ddylanwad i'w ganfod yn amlwg ar gynhyrchion Lladin y dyneiddwyr Cymreig, er mai prin yw'r arwyddion o'i ddylanwad ar weithiau a luniwyd yn yr iaith Gymraeg. Dyma rai o'r pynciau a gaiff sylw gan Mr. Davies mewn ymdriniaeth hynod o eglur a graenus. Wedyn daw byrdwn y gwaith, sef y cyfieithiadau (tdau. 18-156), cyfieithiadau o ragymadroddion a chyflwyniadau Lladin a berthyn i weithiau gan William Salesbury (1551), Siôn Dafydd Rhys (1569 a 1592), John Prys (1573), David Powel (1585), William Morgan (1588), Henry Salesbury (1593), Richard Parry (1620), a John Davies (1621 a 1632), gramadegau a geiriaduron, gweithiau hanes, a chyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Ysgrythur. Ynddynt mynegir syniadau ac arddelir safbwyntiau a oedd yn gyffredin ymysg gwyr dysg y cyfnod, a go brin fod angen pwysleisio pa mor bwysig ynt i'r neb a fynno geisio nabod meddwl a diddordebau arweinwyr dysg yng Nghymru yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn hanes ein llen a'n diwylliant. Wedyn ceir nodiadau buddiol a chryno ar gynnwys y gweithiau ac ar eu hawduron (tdau. 157-84), testun Lladin y cyflwyniad i Syr Robert Peckham ar ddechrau De Italica Pronunciatione Libellus Siôn Dafydd Rhys (td. 185); ac yn olaf Mynegai i Enwau Personau (187-96). Camp y gwaith hwn yw'r cyfieithu sydd ynddo, a'i gyfraniad yw ei fod yn rhoi inni mewn Cymraeg rhywiog, cyhyrog gynnwys meddwl y Cymry hynny a ddewisodd (yn y gweithiau hyn o leiaf) draethu yn Lladin. Nid bychan o gyfraniad mo hyn, ac ni ellid bod wedi ei gyflawni ond gan un a chanddo feistrolaeth gadarn ar y ddau gyfrwng, sef y Lladin a'r Gymraeg. Prin ddigon yw pobl felly yng Nghymru heddiw, ond da yw deall bod o leiaf un ysgolhaig clasurol, ifanc sy'n llinach yr hen ddyneiddwyr, a chyfieithwyr cynharach na hwy. Nid cyfieithu yn unig a gawn yma. Mae yma hefyd ddehongli, dehongli teilwng ddigon ar feddwl yr awduron Lladin hyn. Gobeithio bod y gyfrol odidog hon yn ernes o'r hyn y gellir ei ddisgwyl i'r dyfodol, sef chwaneg o ddehongliadau ar gynhyrchion Lladin a luniwyd gan Gymru mewn cyfnodau cynnar. Coleg Prifysgol Dewi Sant, D. SIMON EVANS Llanbedr P. S. I. G. JONES, Health, Wealth and Politics in Victorian Wales (Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1979). Ni ddangosir pris. BELLACH, y mae'r syniad gor-syml ac anghymleth a goleddid gynt am oruchafiaeth wleidyddol y gymdeithas 'werinol' dros gyfundrefn uchelwrol freintiedig yng Nghymru tua chanol y ganrif ddiwethaf, fel math o broses cenedlaethol anochel, yn cael ei roi dan chwyddwydr yr hanesydd cymdeithasol, a'i gael yn ddiffygiol. Yr arloeswr yn y maes yw Ieuan Gwynedd Jones. Cyhoeddodd ei astudiaethau yn gyson ers rhai blynyddoedd, ond a siarad yn gyffredinol, llawer rhy ychydig o ôl eu dylanwad sydd i'w canfod o hyd ar syniadau rhai a ddylai wybod yn well. Yn y ddwy ddarlith hyn a draddodwyd yn y gyfres i goffáu E. Ernest Hughes, athro hanes cyntaf Coleg y Brifysgol yn Abertawe, ceir cyfle i ymgydnabod unwaith yn rhagor â hanfodion ei ddysgeidiaeth. Nid gwiw i neb eu hanwybyddu. Ceir ynddynt ffrwyth myfyrdod gwr sy'n feistr ar dechnegau'r dadansoddwr cymdeithasolegol, ond yn wahanol i nifer pur helaeth o'r dras honno, ceir yma yn ogystal ymwybyddiaeth lwyr, a chydymdeimlad â hanes Cymru yn y cyfnod yn ffrydio'n llachar trwy'r ymdriniaeth nes rhoi iddi'r ansawdd anniffiniol honno nas canfyddir ond yng ngwaith y sawl sy'n llefaru fel un ag awdurdod ganddo. Sail ei ymresymiad yw bod man cychwyn gweithgarwch gwleidyddol, mewn gwlad a thref fel ei gilydd, yn gorwedd fynychaf yn ymateb pobl i amodau bywyd yn yr amgylchfyd lleol. Dysgai dynion fwy am drin a thrafod materion cyhoeddus yn ddeallus, am feithrin dulliau ysgogi a phrotestio, darbwyllo a chyfundrefnu, am werth cynrychiolaeth fel y cyfryw oddi wrth etholiadau lleol i benderfynu aelodaeth cyrff fel Byrddau Gwarcheidwaid y Tlodion, cynghorau trefol neu Fyrddau Ysgol nag oddi wrth wleidyddiaeth 'genedlaethol' ac etholiadau seneddol. Troid festrïoedd plwyfi yn siambrau dadlau wrth drafod pennu'r Dreth Eglwys, a deuai pobl i ddeall yn rhwyddach sut i wrthsefyll pwysau bygythiol a llygredd ymarferol. Gwleidyddiaeth leol oedd magwrfa'r ymwybyddiaeth â gwleidyddiaeth 'genedlaethol'. O'r herwydd, er na ellir gwadu bod rhai egwyddorion cyffredinol yn cyflyru rhai agweddau gwleidyddol trwy'r wlad ac yn hyn o beth, nid