Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi Y GWAED YW'R BYWYD Rhowch hoe'n waed i'w byddarwch nhw, a hwy'n feirw a oedd o fewn ein tiriogaeth yn trigo, y gwaed yn fywyd a gaed ar fuarth o laeth y cenedlaethau a'n rhyfedd ganrifoedd, o waed y gweledydd a'i lais yn Daliesin i waed y breuddwydion yn cadw ernes eu cadernid yng nghathlau nwyd ein dyddiau ni. Eu dyhead nhw yw siarad â ni, o'u dihuno a'u nwydo gan waed. Ie, aed ein gwaed i godi awr Aneirin, yn ferw lleferydd ei awen o'r gwaed newydd Dewisiad Odusews yn ei raid yn Haides, yn ias ei ffawd ef yn nolydd yr asffodél, yn taro eisoes ar Teiresias a'i weld yn broffwydoliaeth.