Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyfedd yr ias am fyw ynot, yr efengylwr od fel lloer ddi-gartref yn ffurfafen tlodi'r gweithwyr; meistr a thywysog pwysau gorfoleddus y paent yn danchwa o'r is-ymwybod, o'r nwyd sy'n trywanu at fêr ffurfioldeb celfyddyd. Roeddit ti'n goelcerth, tân ysol dy ddawn yn flinder i drefnusrwydd y rhai darbodus. Cefaist dy esgymuno i borfeydd prin y rhai anffodus hanner-pan gan ddiffyg crebwyll oes mor fyr o'r adnoddau i ganfod. Ond roedd ysblander dy gosmos mor feddwol â gwahoddiad lliwiau'r meysydd ŷd synhwyrus danbaid pan oedd melyn haul Gorffennaf yn crasu'r cnawd, a'th gynfas yn ffrydiau o lawenydd. Mae dy weledigaeth lachar mor hardd ar barwydydd gweddus amgueddfeydd yn tystio i gyfaredd nad yw'n pallu. Cadair syml ac ychydig flodau'n gwahodd at gyfrinach grymusterau na ddiflanna'r hud ynddynt gyda threigl y blynyddoedd dof. VINCENT VAN GOGH ALUN PAGE