Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1. Hen gonsuriwr cymeriadau a phortreadwr di-hafal trueni holl deulu'r llawr, treiddiodd rhyfeddod dy ddawn i oleuo'r ysguboriau gwag. Datodaist gwlwm ein pechadurusrwydd yn gwau yn nirgel fannau'r enaid. 2. Gwybu dy athrylith am ddoethineb ar wefusau y cyffredin mud. Synhwyraist arswyd y ddemocratiaeth ofnadwy sydd i ddioddefaint yng nghilfachau dirgel meddwl sant a satyr; adnabuost Siberia'r caethiwed a osodwyd arnom bawb. DOSTOEFFSCI 3. Canfuost lampau yn goleuo cornelau yng nghynefin llwm y gwrthodedig rai. Lluniodd dy ddwyster fapiau ar gyfer pererindod gymhleth drwg a da. Gwelaist hud y tiroedd pell a'r diffeithwch ystyrlon yn naearyddiaeth holl gyflwr dyn. 4. Profaist bwysau y dirdynnol ddewis rhwng nefoedd ac uffern; gwyliaist y pendil mor dyngedfennol yn symud. Mae naws y nefolion leoedd i'w ffroeni yng nghynteddau dy ddawn, a thryblith etifeddiaeth y rhai a gollwyd. 5. Salmydd dioddefaint Rwsia, chwalwr y breuddwydion ym materoliaeth gyndyn Ewrop, mae bysedd y Sanctaidd Un yn arddeliad arnat wrth iti dirlunio mor rhyfedd holl banorama lletchwith ein perenndod. ALUN PAGE