Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Eglwysi Cyfamodol yng Ngheredigion. Sylwadau ar Ystadegau 1978 Yr wyfyn ddiolchgar i'r pwyllgor am roddi'r rhyddid i mi i wneud yr arolwg yma, ac am roddi pob cefnogaeth i mi wrth chwilio i'r ffynonellau ystadegol a oedd ar gael. Pleser mawr oedd cael cyflwyno'r sylwadau hyn i ddwy Henaduriaeth Bresbyteraidd Aberteifi yn eu gwahanol Gyfarfodydd Misol, a chael y fath dderbyniad grasol. Diolch hefyd i Mr. Alun Edwards, Cyn-lyfrgellydd Dyfed am ei ddiddordeb yn y sylwadau ac am fy nghymell i ehangu arnynt, a hefyd i Ølygydd Y Traethodydd am fod mor garedig â derbyn yr ysgrif i'w chyhoeddi. Sylwadau personol yw'r sylwadau a ganlyn, sylwadau wedi eu lliwio, yn sicr, gan y ffaith fy mod wedi bod yn berson gwlad yng nghanolbarth Ceredigion am yr wyth mlynedd a hanner olaf, a'r ffaith fy mod wedi treulio blynyddoedd plentyndod a choleg yn yr 'Hen' Sir. Un peth y medraf ei ddweud, gan fy mod ar fin gadael Ceredigion i weinidogaethu mewn rhan arall o Gymru, yw fod llawer o bethau wedi newid yn ystod y deng mlynedd ar hugain yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â'r sir. Nid sylwadau ystadegydd na chymdeithasegydd, chwaith, yw'r sylwadau hyn; yn hytrach sylwadau rhywun sydd, wrth godi ei wreiddiau, wedi dod i sylweddoli fod naws y 'pridd' sydd o gylch y gwreiddiau hyn wedi newid llawer, a bod y newid yn parhau i fynd rhagddo. Y mae'r ystadegau o dan sylw* wedi eu tynnu o Flwyddlyfrau Henaduriaethau Gogledd a De Ceredigion, (am Archddeaconiaeth Ceredigion) o Flwyddlyfr Esgobaeth T3 Ddewi, ac o ffigurau y bu'r Parch. Daniel Davies, Aberystwyth, mor garedig a'u rhoddi i mi am Gylchdaith Aberystwyth o'r Eglwys Fethodistaidd. Erbyn hyn y mae'r ffigurau yn hen (ffigurau 1978 ydynt); eto rhywbeth tebyg yw'r patrwm o hyd ac os oes newid wedi digwydd, yr un yw cyfeiriad y digwydd, sef lleihad yn nifer yr aelodau ac yng ngweithgarwch yr eglwysi. Wrth ddefnyddio'r ffynonellau ystadegol arbennig hyn, daw'n amlwg i'r darllenydd fod rhaid croesi'r ffin mewn ambell fan, i'r hen Sir Gaer, a'r hen Sir Benfro. Y mae hyn yn enwedig yn wir wrth drafod Archddeaconiaeth Ceredigion, am fod hon yn cynnwys rhan helaeth o Ogledd Sir Benfro yn Neoniaeth Cemaes ac Is-Aeron. Yr hyn yr wyf wedi ei wneud yw cynnwys eglwysi sydd 'dros y ffin', megis, os ydynt yn rhan o ofalaeth sydd yng Ngheredigion ei hunan: yr wyf wedi anwybyddu eglwysi sydd yn perthyn i ofalaethau sydd yn gyfan gwbl y tu allan i Geredigion. Paratowyd yr wybodaeth hon yn gyntaf ar gyfer Pwyllgor Cyfamodi Ceredigion yn 1978. Dyma un o'r pwyllgorau rhanbarthol, a sefydlwyd yng nghysgod y Cyfamod i weithredu tuag at Undeb Eglwysig, a wnaed rhwng yr Anglicaniaid, Y Presbyteriaid, a'r Methodistiaid yn 1975. Rhoddwyd y cyfrifoldeb ar bob pwyllgor rhanbarthol o astudio, a hyrwyddo ffyrdd o gyd- weithredu rhwng yr enwadau cyfamodol, er mwyn dod â hwy yn nes at nod undeb gweledig. Pwysig, felly, oedd gwneud arolwg o adnoddau y tri enwad yng Ngheredigion.