Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymneilltuaeth a'r Genedl 'ROEDD Mr. Ednyfed Jones, a fu am lawer blwyddyn yn bennaeth y Gymraeg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, yn arfer cynghori ei ddisgyblion yn y chweched dosbarth i ddiffinio'u termau wrth lunio ysgrif a thraethawd. » 'Rwyf innau wedi barnu na allwn ddelio â'r pwnc dan sylw heb fod gennyf syniad gweddol glir o'r hyn yw Ymneilltuaeth a'r hyn yw Cenedl. Er bod perygl i mi ailadrodd, gan fy mod yr olaf yn y gyfres i ddelio â rhyw agwedd ar Ymneilltuaeth,2 'rwyf am ddechrau trwy geisio diffinio Ymneilltuaeth a pha beth yw Cenedl. Y cam dilynol fydd ymdrin â'r berthynas rhyngddynt, sef y modd yr ymagweddodd Ymneilltuaeth at y Genedl, gan ddal nad ydyw wedi bod mor glir a chadarn ag y tybir i gychwyn. Gellir cynnig rhesymau paham y cymerodd Ymneilltuaeth yr agwedd a gymerodd at y Genedl a pharhad annibynnol ei hunaniaeth. Y perygl mawr, yn ein hargyfwng ysbrydol presennol, yw ymwrthod â'r dasg wleidyddol sy'n gwbl allweddol. Ymneilltuaeth Nid yw'r term. 'y Gydwybod Ymneilltuol', yn amlwg iawn mewn dyddiau eciwmenaidd. Ynwir, pandrafodais, 'Moeseg o Safbwynt Ymneilltuwr', mewn brawdoliaeth gydenwadol o offeiriaid a gweinidogion, rai blynyddoedd yn ôl, gan gychwyn gyda'r gydwybod ymneilltuol a rhoi iddi gynnwys cyfoes, 'roedd y brodyr Anglicanaidd a Phabyddol wedi llwyr ddychryn. Ond mae yma, i bwrpas yr ymresymiad presennol, gystal man cychwyn ag unlle i fedru dweud beth yw Ymneilltuaeth. Yn ôl y diweddar Barch. Trebor Lloyd Evans,3 mae pedair cainc i'r Gydwybod Ymneilltuol. Y gyntaf yw ei bod yn gydwybod dros gydraddoldeb crefyddol. Rhydd Mr. Evans arolwg hanesyddol o'r hyn yr ymladdodd Ymneilltuwyr trosto, gan gychwyn yn 1813 gyda dileu Deddfau'r Cyrddau a'r Pum Milltir a fu mewn grym er 1664-65, yn gwahardd i fwy na phum Ymneilltuwr heb fod o'r un teulu gwrdd â'i gilydd i gydaddoli. Yn 1828 diddymwyd Deddfau'r Corfforaethau a'r Prawflwon a fu mewn grym am ganrif a hanner, gan wahardd i Ymneilltuwyr ddal swyddi dinesig cyfrifol. Diddymwyd y Dreth Eglwys yn 1868 ar ôl rhyfel poeth a llym, Rhyfel y Degwm. Parhaodd yr ymdrech dros gydraddoldeb crefyddol hyd 1899 pan alluogwyd gweinidogion ymneilltuol i weinyddu priodasau heb gymorth cofrestrydd. Yn 1837 ffurfiwyd 'The Society for Promoting Ecclesiastical Knowledge', cymdeithas a wnaeth waith propaganda dros gydraddoldeb crefyddol. Ail gainc y Gydwybod Ymneilltuol oedd ei bod yn gydwybod ynghylch Addysg. Brwydr dros gael addysg yn rhydd o dderbyn credoau Eglwys Loegr oedd y frwydr hon. 'Roedd 1870 yn flwyddyn fawr yn hanes addysg elfennol pryd y derbyniodd y Wladwriaeth gyfrifoldeb am addysg plant yn gyffredinol drwy Ddeddf Addysg Foster. Cymerodd Ymneilltuwyr ran amlwg iawn i sicrhau Coleg Prifysgol i blant y werin yng Nghymru ac nid yw heb ei arwyddocâd mai mab i weinidog ymneilltuol oedd prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Aberystwyth yn 1872. Yn drydydd, 'roedd y Gydwybod Ymneilltuol yn gydwybod gymdeithasol.