Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Moddau Llenyddol (1) GWYR pawb sy'n ymhèl â llenyddiaeth fod gwahanol dermau ar gael i ddisgrifio gwahanol ffurfiau llenyddol englyn, telyneg, nofel, ysgrif, drama, rhamant, alegori (alleb), ffars, dychan, soned, trasiedi, arwrgerdd, erthygl, emyn, ac yn y blaen: defnyddir amryw o'r rhain ochr yn ochr â'i gilydd yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain y mae gan Iolo restr nodweddiadol o'r dulliau gwahanol mewn prydyddiaeth, sef Mawlgerdd, Hanesgerdd (sef y gerdd storïol), Cerdd Annerch (sef y gân latai), Cân Addysg, Dyfalgerdd, Galargerdd, Gogan, Cerdd Hawl ac Ateb (ymddiddan, cerdd ddramatig); acymae'i ymdriniaeth â'r dosbarthiad hwn, fel cynifer o bethau eraill ganddo, yn graff ac yn ddiddorol. Ni raid myfyrio'n hir cyn sylweddoli fod rhai o'r rhain yn fwy cyffredinol na'i gilydd: y mae ambell derm yn enw ar ddosbarth sy'n cynnwys rhai o'r ffurfiau eraill. Term felly yw telyneg sy'n medru amgylchu soned ac emyn: term arall felly yw drama sy'n medru cwmpasu ffars a thrasiedi. Cyn gynted ag yr eir ati i ddosbarthu fel hyn fe eir ati hefyd i gyffredinoli, a hefyd mentraf ddweud i gyferbynnu. Ac y mae'r cwestiwn anochel yn codi: pa griteria neu egwyddorion sydd ar waith yn y cyffredinoli a'r cyferbynnu hwn? A yw'r term hwn a hwn yn dosbarthu yn ôl yr un nodwedd? A oes teuluoedd fel petai? Mewn teulu disgwylir nodweddion cyffelyb ymhlith yr aelodau taldra, lliw gwallt, tymer, deallusrwydd, ac ati, ac nid yr un nodweddion a etifeddir gan bob aelod o'r teulu. A ellir olrhain priodoleddau perthynol o'r math hwn? Diau fod yr egwyddorion sy'n gwahaniaethu rhwng telyneg a drama neu rhwng comedi a thrasiedi yn llawer dyfnach na'r gwahaniaeth rhwng rhupunt a gwawdodyn hir. Yr hyn y ceisir ei drafod yn yr ysgrif hon yw'r dosbarthiad mwyaf canolog sydd ar gael mewn llenyddiaeth. Beth yw'r egwyddorion symlaf a mwyaf creiddiol sy'n cyfrif fod gwahaniaethau ffurfiol i'w cael? Beth yw'r dosbarthiad brasaf a mwyaf cyntefig? Pa griteria sy'n medru cyferbynnu'r dosbarth mwyaf â'r dosbarth mwyaf arall o ffurfiau llenyddol? Yr wyf am ddadlau ar sail un rhagdybiaeth arbennig, a honno yw mai un o'r pethau canolog a wna llenyddiaeth yw rhoi i ni ddelwedd o'r byd. Ac os felly, credaf mai'r cyferbyniad eithaf yn y meddwl dynol wrth ddelweddu'r byd hwnnw yw'r cyferbyniad rhwng Gofod ac Amser. Meddai Guillaume (Principes 26-27): 'Ni wyddom sut i feddwl ond drwy gyferbyniadau. Fe ddangosir yn anad dim mai'r cvferbyniad rhwng gofod ac amser yw'r cyferbyniad eithaf a ailgrewyd er mwyn meddwl pan fo'r meddwl wrth ddringo'n ôl i'w ffynonellau'i hun, yn cyfarfod yno â'r anghyferbyniol anfeddyliadwy.' Dyma'r cyferbyniad cyntaf (o ran system) sy'n rhoi i ni'r ddau ddull gwaelodol o syniad am ffurfiau llenyddol. Yr wyf am ddefnyddio'r term Math ar gyfer dosbarthiad gofodol, a Modd ar gyfer dosbarthiad amserol o feddwl am ffurfiau. Yn y fan yna y ceir y cyferbyniad cychwynnol.