Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cristoleg Pannenberg Y MAE'R Cymry'n gyfarwydd iawn â geiriad yr athrawiaeth uniongred, draddodiadol, am Berson Crist oherwydd i Ann Griffiths ei gynnwys yn un o'i hemynau: 'Dwy natur mewn un person'. Bu llawer o feirniadu ar y fformiwla hon yn ystod ein canrif ni, a hynny am sawl rheswm. Condemniwyd hi gan rai am ei bod yn cynnwys geiriau na cheir mohonyn nhw yn y Beibl a chan eraill am fod y termau ynddi yn rhy haniaethol ac athronyddol. Term rhy statig, ym marn Tillich, ydi 'natur', a hollol anghymwys i ddisgrifio Duw a dyn. Dan ddylanwad Barth daeth mwy o bwyslais heddiw nag erioed o'r blaen yn hanes diwinyddiaeth Gristnogol ar y Duw byw sy'n rhydd i weithredu yn ôl ei ewyllys ei hun ac nid yn unol â rhyw 'natur' sy'n perthyn iddo, a than ddylanwad dirfodaeth daeth mwy o bwyslais nag erioed ar ryddid dyn oddi wrth gyfyngiadau ei 'natur' neu ei 'gymeriad'. Gwell gan Tillich felly ddisgrifio undod person Crist yn nhermau 'ewyllys'. Yr hyn a wna Iesu'n unigryw ydi fod ei ewyllys ef mewn cytgord perffaith ag ewyllys Duw, yn un ag ewyllys Duw. 'Yn Iesu fel y Crist', meddai, 'daeth undod tragwyddol Duw a dyn yn realiti hanesyddol'. Cred Tillich fod diffinio'n haniaethol yr undod hwn yn dasg amhosibl. Yn Lloegr bu dadlau chwyrn ar y pwnc pan ymddangosodd The Myth of God Incarnate a'r ateb iddo, The Truth of God Incarnate. Ond ar y cyfan amaturaidd ac arwynebol fu'r diwinydda yn Lloegr ers blynyddoedd, a rhaid mynd i'r cyfandir i gael trafodaethau mwy dyfnddysg, gan Küng a Schillebeeckx, er enghraifft (dau babydd, gyda llaw), ac yn arbennig gan Wolfhart Pannenberg. Pan gyhoeddwyd ei gyfrol swmpus ef (Jesus Godand Man ydi'r teitl yn Saesneg), croesawyd hi fel campwaith, fel cyfraniad syfrdanol o wreiddiol, ac fel un o'r cyfrolau gorau a phwysicaf i'w chyhoeddi yn ein hamser ni. Athro mewn Diwinyddiaeth Systematig ym Mhrifysgol München yw Pannenberg, ac ef a Moltmann, bellach, ydi'r diwinyddion Protestannaidd amlwg a gododd i gymryd lle cewri'r genhedlaeth gynt, Barth, Brunner, Bultmann, Bonhoeffer a Tillich. Bwriadaf yn yr erthygl hon roi crynodeb o brif nodweddion Cristoleg Pannenberg, gan obeithio y bydd hynny'n anogaeth ac yn gymorth i rai ymgodymu â'r dasg anodd o fynd drwy Jesus God andMan. Defnyddiol ydi cyfrol fechan A. D. Galloway, Wolfhart Pannenberg, a gyhoeddwyd gan Allen and Unwin ym 1973, fel rhagymadrodd i waith v diwinydd yn gyffredinol. Gwell fyth ydi darllen cyfrol lai gan y diwinydd, TheApostle's Creed (S.C.M.). Gellir dweud am Gristoleg Pannenberg I. MAI CRISTOLEG 'ODDI ISOD' YDYW Yr oedd Cristoleg 'oddi uchod' yn gyffredin iawn yn yr Eglwys Gynnar ac fe'i gwelwyd yn niwinyddiaeth Barth ac yn y Brunner cynnar. Y cwestiwn y ceisiwyd ateb iddo oedd: 'Sut y mae Ail Berson y Drindod (y Logos) wedi cymryd arno natur ddynol?' Pwyswyd llawer ar frawddegau fel 'Y Mab yn disgyn o'r nefoedd', a 'Duw yn anfon ei Fab i'r byd', ar sail adnodau fel Rhuf. 8: 3, Gal. 4: 4, a Phil. 2: 5-8. Prin y byddai Pannenberg yn mynd mor bell â'r