Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad PENNAR DAVIES, Diwinyddiaeth J. R. Jones (Coleg y Brifysgol, Abertawe; 1978). Pris: SOc. AMHEUTHUN ydyw cael y ddarlith goffa hon mewn print i ddwyn ar gof drachefn rai o brif deithi meddwl y diweddar Athro J. R. Jones. Wrth gwrs, byddai astudiaeth gyflawn o gyfraniad J. R. i ddiwinyddiaeth ac athroniaeth crefydd yn gofyn llyfr iddi ei hun, ond llwyddodd y Parchedig Brifathro Pennar Davies i osod ger ein bron, mewn cwmpawd byr, syniadau allweddol ei wrthrych. A'i darlleno, re'i hysgogir i fynd yn ôl at yr ysgrifau a'r pregethau a gyhoeddwyd yn y llyfr, Ac Onide, a'r Efrydiau Athronyddol. Y dylanwadau trymaf ar ddatblygiad meddwl J.R. yw gweithiau Paul Tillich, Simone Weil a Ludwig Wittgenstein ynghyd â llyfr Albert Schweitzer a gyfieithwyd i'r Saesneg o dan y teitl The Quest of the Historical Jesus. Daw'r awduron hyn o gefndiroedd gwahanol iawn i'w gilydd, a datblygwyd eu syniadau yn annibynnol, ond llwyddodd J.R. i blethu a chyfrodeddu rhai o'u prif syniadau gan osod ei ddelw arbennig ei hun ar y cyfuniad. Dyma ddeunydd y patrwm o feddwl a drysorwyd i ni yn y llyfr Ac Onide. Sylfaen y patrwm ydyw'r ymwrthod radical â rhai o brif ddaliadau uniongrededd, a'i ddeunydd ydyw'r ddiwinyddiaeth newydd a osodir ger ein bron. Yr oedd y cefnu ar uniongrededd, a'r mabwysiad o'r ffydd a amlinellir gan Pennar Davies, yn ddatblygiad hollol allweddol yn hanes meddwl J.R., a byddai ef yn ystyried y datblygiad yma yn rhywbeth sylfaenol angenrheidiol cyn belled ag y mae cael dealltwriaeth iawn o'r amgylchiadau presennol yn y cwestiwn. Y mae'r ddarlith yn ein harwain i mewn i gylch meddwl y gwrthrych drwy gyfeirio at y ddau fath o ffydd a wahaniaethir gan Tillich, sef y ffydd grediniol draddodiadol, a'r ffydd anghrediniol- ymofynnol ddiamod nad oes iddi gynnwys arbennig. Ac yn sicr fe ellir cytuno mai yng ngoleuni atyniad yr ail fath o ffydd y mae deall agwedd meddwl J.R., ond yn y cyswllt hwn fe ddylid hefyd nodi'r pryderon a wahaniaethodd Tillich pryder tynged a thranc, pryder euogrwydd, barn a chondemniad, ac yn olaf, pryder y meddwl a welodd drwy bopeth ac a gafodd bopeth yn y gwaelod yn ddiystyr (gw. Ac Onide, t. 12). Credaf fod i'r syniad o wacter ystyr le hollol ganolog ym meddwl J.R., ac mai yng ngolau'r syniad hwn y gwelodd ef bwysigrwydd cefnu ar uniongrededd a cheisio dealltwriaeth newydd o neges Cristnogaeth ddigrefydd. Argytwng gwacter ystyr ydyw argyfwng ein hoes ni, fel y gwelodd J.R. hi, a dyna pam y tybiai na all uniongrededd dycio bellach. Felly nid agwedd ar ddatblygiad meddwl yr athronydd ei hun sydd yn y fantol ond cyflwr pob un sydd yn blentyn yr ugeinfed ganrif; y mae'n gyflwr na ellir ei gyffwrdd na'i gyffroi ar hyd llinellau uniongrededd, oherwydd cael gafael ar ystyr, yn hytrach nag achubiaeth rhag barn, ydyw ei angen. Hwyrach y gallesid bod wedi rhoi lIe amlycach i'r pwynt yn y ddarlith. Gwelir mor sylfaenol yw'r cefnu ar uniongrededd yn y ffordd y mae J.R. yn troi oddi wrth y syniad o Dduw fel person, gan gofleidio syniad TUlich amdano fel 'Gwaelod Bod', 'Dyfnder Bod', neu 'Fod ei hun'. Nid yw Duw yn fod ymysg bodau, meddir; nid un o'r unigolion sydd yn bod ydyw Duw ac nid gwrthrych ymhlith gwrthrychau mohono, na pherson ymysg personau. Y peth nesaf at achub a gydnabyddir bellach ydyw cael profiad o gael "gafaelyd ynoch gan ryfeddod bod yn eich tynnu chwi i lawr i ddyfnder sy'n gorwedd oddi tan yr hollt a wahanodd fodolaeth i'n profiad ni yn 'oddrych' a 'gwrthrych' Y mae Pennar Davies yn hollol gywir wrth ddweud fod tyndra rhwng y dull hwn o feddwl a'r dull personol a fuasai'n naturiol i J.R. yn gynharach ar ei yrfa; yn wir, nid wyf yn deall pam y petrusa ddweud fod y ddwy ffordd o feddwl yn anghyson â'i gilydd; synnwn i ddim nad dyna a ddywedai J.R. ei hun yn oriau ei fyfyrdod athronyddol. Ond rhaid cydnabod yr un pryd, fel y dengys y darlithydd, fod digon o enghreifftiau o'r dull personol o ymadroddi am Dduw yn aros ym mhregethau J.R., a phrin bod rhaid gofyn pam. Yr ail ddylanwad amlwg yn ei ddiwinyddiaeth ydyw syniadau rhyfeddol Simone Weil, a'r mwyaf syfrdanol o'r rhain ydyw'r syniad fod Duw yn creu drwy ei absenoli ei hun, ac mai yn ei absenoldeb y mae yn bresennol yn ei greadigaeth. Dyma, o'i gyfieithu, a ddywed Simone Weil: "Absenoldeb Duw yw'r dystiolaeth ryfeddaf i berffeithrwydd ei gariad"; a thrachefn, dywed: "Dim ond yn null