Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ifor Hael Y MAE Ifor Hael yn enwog hyd heddiw am mai efô oedd pennaf noddwr Dafydd ap Gwilym, y bardd mwyaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Diau bod ysbrydoliaeth mawredd barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn deillio'n bennaf o'i gariad at Forfudd, ond digon prin yw cyfeiriadau beirdd diweddarach at Forfudd er bod y cyfeiriadau at Ifor Hael yn lluosog iawn. Hawdd deall hyn: ni fuasai'r rhan fwyaf o feirdd eraill yn dymuno cael eu harwain gan serch i'r un trybini a dioddefaint a siom ag a fu yn hanes Dafydd ap Gwilym, ond yr oedd nawdd Ifor Hael yn symboleiddio bywyd i'r traddodiad moliant barddol a pharhad i'r diwylliant Cymraeg ac i fywoliaeth unigolion o feirdd. Y mae D. J. Bowen wedi dadlau (LIC, v, 167-9; vi, 36), a chytunodd Thomas Parry (Traethodydd, cxxxiii, 65) fod Dafydd ap Gwilym wedi mynd o Emlyn i Fasaleg, llys Ifor Hael, wedi i'w ewythr Llywelyn ap Gwilym gael ei ladd gan Saeson tua 1346. Gallasai hyn yn rhwydd fod, ond ni allaf i dderbyn fod prawf mewn dadleuon sydd i mi'n ymddangos yn oddrychol ac yn ansicr eu seiliau. Y gwir syml yw, mi gredaf, na wyddom o gwbl pryd yr aeth Dafydd gyntaf i Fasaleg, dim ond bod traddodiad profedig cyn diwedd y bymthegfed ganrif i wyr Morgannwg dalu iawn neu ffin a oedd yn ddyledus gan Ddafydd ap Gwilym oherwydd ei helbul gyda Morfudd, gw. LIC, v. 172. Wrth gwrs, cwbl resymol yw dal mai cysylltiadau Ifor Hael â Dyfed a barodd i Ddafydd ap Gwilym fynd gyntaf i Fasaleg, fel y daliodd Mr. Bowen, ac y mae'n ffaith, fel y nododd Dr. Parry (Traeth., cxxxiii, 64) fod Morgan ap Dafydd o Rydodyn, hanner-brawd i Ifor Hael, yn un o'r Cymry a oedd yn gyfrifol am ladd John Lawrence, dirprwy-ustus West Wales.' Ond mater arall yw credu fod rhaid i Ddafydd ap Gwilym fynd cyn belled â Basaleg i chwilio am noddwr teilwng o wrth-Seisnig wedi lladd Llywelyn ap Gwilym, ac mai dyna pam yr aeth yno. Yr oedd tad Ifor Hael, Llywelyn, yn arglwydd Sain Clêr a Gwynfe, ac yr oedd yn disgyn o-dad-i-dad o Gydifor Fawr, arglwydd Blaen-cuch, ac felly o Gynan ap Tryffin Farfog a oedd yn disgyn, yn ôl yr achau, o Facsen Wledig. Brawd i Gynan oedd Aergol Lawhir, hynaif prif gangen teulu brenhinol Dyfed (gw. W. Gen, 202, 200, 187, 53, 20). Taid Ifor Hael, ar ochr ei fam, Angharad, oedd Morgan ap Maredudd, arglwydd Tredegyr, a oedd yn disgyn yn uniongyrchol o Rys ap Tewdwr, brenin y Deheubarth pan ddaeth y Normaniaid gyntaf i Gymru (gw. W. Gen., 779, 776). Yr oedd i Ifor Hael ddau frawd llawn, sef Morgan o Dredegyr a Ffylib o Fachen, a hanner-brawd, sef Morgan o Rydodyn a oedd yn fab i Ddafydd ap Llywelyn, ail wr Angharad; ac yr oedd hanner-brodyr eraill hefyd o'r trydydd gwr, Meurig Goch. Gan fod Ifor ap Llywelyn o dras mor urddasol nid rhyfedd fod bardd mor arbennig â Dafydd ap Gwilym, yntau o dras nodedig, yn ei weld yn noddwr teilwng iddo; ac y mae'n ddiau bod Ifor yn ymdeimlo â dyletswyddau noddi traddodiadol. Er hynny, y mae'n ffaith hysbys fod ansawdd y canu moliant i Ifor Hael yn drawiadol o wahanol i bob canu moliant arall y gwyddom amdano