Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crist a Dioddefaint DIOLCH i chwi, Mr. Gwilym Hughes, am eich croeso cynnes. Braint i mi yw bod yma. Yn wir nid wyf yn meddwl fod yna ddim a ystyriaf yn fwy o fraint na chael cymryd rhan fel hyn yn un o wyliau y Cyfundeb. Hyfrydwch i mi hefyd yw cael gwneud hyn dan eich llywyddiaeth chwi, a'n meddwl ni'n dau, fel yr ydych chwi wedi cyfeirio, yn rhedeg yn ôl at y dyddiau dedwydd yr oeddem ni ein dau yn aelodau o'r un dosbarthiadau yn y Coleg ym Mangor, yn nyddiau ei ogoniant. A gaf finnau ddiolch hefyd am y canu eneiniedig yr ydym newydd ei wrando?1 Beth bynnag arall a ddywedir am y cyfarfod hwn heno, fe allwn fod yn gwbl sicr fod y rhannau arweiniol, fel yr ydym, braidd yn anghymwys efallai, yn eu galw, wedi bod yn fendith fawr i ni i gyd. Ac yn awr i minnau ddisgyn yn syth ar fy mater Crist a dioddefaint. Mae gan Dr. John Williams, Brynsiencyn, deitl i un o'i bregethau ni wn ai'r pregethwr mawr ynteu ei olygydd a'i gofiannydd hynaws, y Parch. R. R. Hughes (bron na fedraf ei weld yn awr, a'i ben moel yn crynu ei gymeradwyaeth; cefais lawer cymwynas ganddo), ni wn pa un o'r ddau a luniodd y teitlau; ond dyma fo dewis yr anodd. Yr wyf innau yn sicr wedi dewis yr anodd heno, rhy anodd efallai y bydd rhai ohonoch yn tybio, mwy cymwys i gymdeithas gweinidogion, neu seiat neu ddosbarth, nag i gynulleidfa gymysg fel hon. Ond yr wyf wedi ei ddewis am fy mod yn sicr nad oes dim yn fwy o atalfa i rai a hoffai rannu ein ffydd a'n ffordd ni na'r dryswch enbyd hwn, na dim sydd yn fwy o dyndra cyson i'r saint. Y mae un peth o leiaf sydd yn gryn gymorth i ni ar y dechrau, sef ei bod yn hawdd iawn datgan beth ydyw'r dryswch. Yr ydym yn credu, ac yn ceisio cymell eraill i sylweddoli, ein bod ni ein hunain a phob peth o'n cwmpas, y cwbl sy'n bod yn y byd meidrol i gyd, yn dibynnu ar Fod anfeidrol a dihysbydd, creawdwr cyrrau'r ddaear, o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb, 'cynhaliwr popeth sydd', yr Hollalluog Dduw; ac fe gredwn hefyd fod y Bod dihysbydd yma, nid o ddigwydd ond yn ei hanfod, yn gwbl ddaionus trugarog a graslawn yw yr Arglwydd, hwyrfrydig i lid a mawr o drugarowgrwydd; nid byth yr ymryson efe, nid byth y ceidw efe ei ddigofaint; fel Tad y tosturia efe, 'tosturi dwyfol fawr', neu yn fwy syml yn y geiriau yr ydym ni i gyd wedi eu dysgu a'u dweud rywbryd, 'Duw cariad yw'. Ac eto mae cymaint o bethau i bob golwg o'u lle yn y byd hwn sydd yn cael ei gynnal gan Dduw cymodlawn a chariadlawn, cymaint o aflwydd, casineb a thrais a bryntni, hiraeth a siom ac unigrwydd, rhwystredigaeth a methiant, newyn a llifogydd a gwae, dinistr a thân, haint a gwallgofrwydd ac ofn, a phoen arteithiol i ddyn ac anifail; ac y mae'r hen gwestiwn yn dod i ni, i lawr ar draws y canrifoedd, o ddyddiau llyfr Job ac o wareiddiadau hen ymhell cyn hynny ac o'r salmau, 'Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos tra dywedent, Pa Ie mae eich Duw'? Pa Ie mae o heddiw, yn nhrybestod a gerwinder ein dyddiau, pa le'r oedd o yn Nolgarrog flynyddoedd yn 61 pan rwygodd atalfeydd y llyn, neu, yn nes atom, yn Aber-fan pan chwyddodd yr hen domen ddu i fwrw ei llid ar y lle? rhyw hergwd fach iddi o'i chwrs fyddai ddigon, neu beri i'w law dywallt yn fwy