Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Moddau Llenyddol (2): Tywyll Heno A GAF adolygu a chrynhoi methodoleg ein dadansoddiad hyd yn hyn? Dechreusom drwy sythweled y rhaniad ffurfiol lletaf mewn llenyddiaeth sef Math (Gofod) a Modd (Amser). Gwelsom reidrwydd y tri-dimensiwn mewn Gofod a'r ddau-begwn mewn amser. Dilynasom wedyn y dadansoddiad moddol yn bennaf gan sylwi fod y rhythmau'n hierarcaidd yn yr enghraifft a gymerasom, sef 'Gweledigaethau'r Bardd Cwsg'. A chymryd y tair gweledigaeth gyda'i gilydd yn uned, fe ellir dadlau mai disgynnol yw'r profiad cyffredinol o'r byd drwy angau i uffern. Eithr, ar ôl bwrw golwg banoramig ar y cyfanwaith, closiwyd at un o'r gweledigaethau, ac felly yr aethom â'n camera, fel petai, yn nes nes gan sylwi o'r diwedd fod i bob motiff digwyddiadol neu safleol hyd yn oed, sef yr uned ferfol neu storïol leiaf, ei ansawdd ei hun o fewn amser. Y mae pob llenyddiaeth yn 'cymryd amser', a gellid disgrifio pob uned, felly, yn ôl fel y mae'n profi amser: yr hyn a welsom oedd y tyndra o'r tu mewn i 'Weledigaeth Cwrs y Byd' rhwng y symudiadau cyfeiriol gwahanol yn y meddwl tynhau, rhyddhau; llwyddiant, aflwyddiant; trechu, colli; esgynnol, disgynnol. Ar hyd echel amser, yr oedd yr orymdaith o fotiffau a drefnwyd gan Ellis Wynne yn adeiladwaith grisiol agored: dilyniant ydoedd a symudai o gam i gam, gyda'r safle cyntaf yn ymglymu wrth y safle olaf mewn dull caeedig ond gyda'r camre rhyngddynt yn hynod rydd a heb fod y naill yn anochel yn y llall a heb fod yr elfen ddisgwyl yn llywodraethu ar eu perthynas. Felly, y mae pob un o'r motiffau deinamig hyn yn dwyn ei anian arbennig ei hun, yn esgynnol neu'n ddisgynnol: y motiffau statig yn unig a all ymddangos fel petaent yn osgoi'r rheidrwydd hwn. Ond gall cyfuniad neu rediad unigol o fotiffau gyda'i gilydd ddwyn cymeriad unol hefyd a all fod yn wahanol i ambell un a hyd yn oed i fwyafrif o'r motiffau unigol sydd o'i du fewn. Rhyw fframwaith o'r math yna fyddai gennym felly wrth geisio dadansoddiad moddol 0 lenyddwaith, a byddem yn archwilio y modd y patrymid achos ac effaith ac unedau ailadroddol ar hyd gorwel amser. Ar hyd y gorwel hwnnw fe allem adnabod rhai gorsafoedd, megis yr Uchafbwynt, ac iddynt swyddogaeth wahaniaethol neilltuol; a gallem olrhain y modd y mae'r cyfanwaith yn cynyddu (drwy wella neu drwy waethygu) yn ei berthynas â'r uchafbwynt hwnnw. Ond pe baem yn ceisio dadansoddiad mathol a moddol ynghyd, fe fyddai ein fframwaith braidd yn wahanol: fe fyddem wedyn yn mabwysiadu golygwedd ddeublyg yn torri ar draws un driphlyg, debyg i gyfundrefn y rhannau ymadrodd traethiadol mewn gramadeg sy'n darparu fframwaith i gystrawen y frawddeg, lle y mae'r enw hunan-gynhaliol yn ymsefydlu'n ddisgyrchiant, y ferf yn pwyso arno, a'r adferf yn pwyso ar honno: 1. Cymeriad (Math-triphlyg)t 2. Gweithredoedd (Modd-deublyg), eithr hefyd 3. Amgylchfyd (golygfeydd a chyfnodau hanesyddol; amodau cyd-destun). Byddem yn ymddiddori nid yn 1 Parhad ar Erthygl yn Rhifyn Ebrill, tt. 93-104