Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amos Ddoe a Heddiw BRODOR ydoedd Amos o Tecoa, lle tua deuddeg milltir o Jeriwsalem ynghanol gwlad fynyddig ac anial. Nid rhyfedd i George Adam Smith awgrymu bod yr amgylchedd garw wedi mynd i waed y proffwyd, ac y mae'n iawn i ni gredu bod ein hamgylchedd yn cael dylanwad arnom. Yr oedd Amos yn gyfarwydd â diffeithwch anghyfannedd Jesimon, ymguddfan y llewod a'r eirth. Yn anialwch Tecoa fe welid rhywogaeth o ddefaid bychain, a oedd yn ddiarhebol am eu hacrwch ond yn enwog am ragoriaeth eu gwlân. Ac ymhlith bugail- berchenogion y defaid hyn yr oedd cartref Amos. Dywedir un ffaith arall amdano — ei fod yn gasglydd ffigys gwylltion neu'n gywirach ysgythrwr sycamorwydden. Nid yr un coed yw'r rhain a'r rhai a adwaenir gennym ni, ond tyfant mewn rhannau o wlad Canaan, a dygant ffrwyth merfaidd ei flas nas bwyteir ond gan y tlodion. Dyma'r hyn a fowldiodd gymeriad Amos. Gwelwn o ba Ie y daeth ei gymariaethau gafaelgar sy'n britho'r llyfr. Dyma sy'n gyfrifol am ddywediadau fel y rhain: Megis pe ffoai gwr rhag llew ac arth yn cyfarfod ag ef, a myned i'r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a'i frathu o sarff. Ac yn nistawrwydd llethol yr anialwch dysgodd adnabod ac addoli 'Lluniwr y Mynyddoedd a Chreawdwr y Gwynt'. Ie, a Gwneuthurwr Pleiades ac Orion. Ar ei deithiau i ffeiriau Israel i werthu gwlân arferai sylwi ar arferion y gymdeithas, a chlywai am ddigwyddiadau ei gyfnod. Ac mae'n amlwg iddo dderbyn yr alwad i broffwydo ac yntau yn dilyn y praidd. Fe ddaeth yr alwad iddo ar ffurf gweledigaeth ac fe'i disgrifir yn y seithfed bennod (7: 1) i'r drydedd adnod o'r wythfed bennod. Yr unig ymddangosiad cyhoeddus y cawn ni gofnod amdano ydyw'r un amdano yn cyrraedd Bethel yn y Deyrnas Ogleddol. Yno y daeth i wrthdrawiad ag Amaseia, offeiriad yn y cysegr brenhinol, yr hwn a ddywedodd wrtho: Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda, a bwyta fara yno, a phroffwyda yno. Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw. Yr oedd Amaseia'n ofni bod Amos yn mynd i greu cynnwrf a gwrthryfel. Cred mwyafrif yr esbonwyr i Amos broffwydo yn y Deyrnas Ogleddol yn unig efallai mewn dinasoedd eraill ar wahân i Bethel. Ac nid yw'n amhosibl credu iddo broffwydo hefyd yn Jwdea fe gyfeirir at Seion yn y chweched bennod a'r adnod gyntaf 'Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion'. Proffwydodd Amos ar ddiwedd cyfnod o heddwch a llwyddiant. Bu Jeroboam yr Ail ac Usiah ar yr orsedd gan orchfygu eu gelynion a rhoddi i'w pobl gyfnodau o heddwch. Yr oedd rhai o'r Israeliaid yn byw bywyd o segurdod a gwelid yr hen weriniaeth seml ar drai. Gorthrymid y tyddynwyr mân gan y dosbarth newydd o gyfalafwyr; amddifedid hwy o'u tiroedd ac aent yn gaethweision i'r echwynwyr gwancus a diegwyddor. Pen draw hyn oedd ffurfio ystadau mawrion a gorthrymu'r bobl gyffredin i lafurio'n galed am y nesaf peth i ddim. Yr oedd anghyfiawnder yn uchel ei ben, ac annhegwch yn ffordd o fyw, ac yr oedd y